Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion North Wales Fire and Rescue Service visit Llandudno Youth Club

Ymweliad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Glwb Ieuenctid Llandudno


Summary (optional)
start content

Ymweliad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Glwb Ieuenctid Llandudno

Cafodd Clwb Ieuenctid Llandudno'r cyfle i siarad ag aelodau criw a dysgu mwy am y cyfarpar a’r gweithdrefnau pan ymwelodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ddiweddar.

Dywedodd y Gweithiwr Ieuenctid, Tommy Lyness, “Cafodd y criw o’r Gwasanaeth Tân effaith fawr ar aelodau o Glwb Ieuenctid Llandudno. Roedd y bobl ifanc yn gallu gofyn cwestiynau, darganfod mwy am yrfa yn y gwasanaeth tân ac archwilio’r injan dân. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r criw ac rydym am geisio parhau i weithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys i ddarparu gwybodaeth atal ar gyfer pobl ifanc.”

Cymerodd dri deg wyth o bobl ifanc o’r Clwb Ieuenctid ran yn y sesiwn.

Dywedodd Jo Trafford, Diffoddwr Tân dan Brentisiaeth, “Roedd y grŵp yn cymryd rhan ac yn gofyn nifer o gwestiynau. Rwy’n falch ein bod wedi gallu dangos yr injan dân iddynt a thrafod canlyniadau tanau bwriadol a galwadau ffug, yn ogystal â siarad â nhw am ddiogelwch tân yn y cartref.”

I gael mwy o wybodaeth am brosiectau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ewch i:

Ein gwaith gyda phobl ifanc - Eich Cadw’n Ddiogel - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (gov.wales)

Wedi ei bostio ar 22/04/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content