Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Office Accommodation Strategy - Update

Strategaeth Gofod Swyddfa - Newyddion diweddaraf


Summary (optional)
start content

Strategaeth Gofod Swyddfa - Newyddion diweddaraf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn gweithio i leihau ein costau refeniw, gwneud y defnydd gorau o’n hasedau, lleihau ein hallyriadau carbon, osgoi costau atgyweirio a chynnal a chadw sylweddol, a chreu cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd. Mae swyddfeydd Coed Pella ym Mae Colwyn eisoes wedi ein galluogi ni i ganoli llawer o’n timau, lleihau costau a rhyddhau adeiladau o amgylch y sir i’w gwerthu neu ar gyfer defnydd amgen. Rydym nawr yn archwilio hyfywedd datrysiad un swyddfa er mwyn symud y gwaith moderneiddio hwn yn ei flaen.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r rhan fwyaf o’n staff yn gweithio mewn swyddfa, maent yn gweithio yn ein hysgolion, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, ar rowndiau ailgylchu/sbwriel ac mewn nifer o leoliadau eraill sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Felly mae’n hanfodol bod ein gwasanaethau canolog yn cael eu trefnu mor effeithlon â phosibl i gefnogi’r gwaith hwnnw sy’n digwydd yn ein cymunedau.

Ym Mehefin fe gytunodd y Cabinet y dylem baratoi achos busnes llawn a fyddai, os yn hyfyw, yn cyflawni strategaeth un swyddfa gyda Choed Pella yn darparu’r canolbwynt canolog ar gyfer swyddogion a Chynghorwyr Sir. 

Bydd ffioedd proffesiynol yn cael eu hysgwyddo i fynd ymlaen â’r achos busnes llawn, gan gynnwys ffioedd ar gyfer asiantiaid eiddo arbenigol ac ar gyfer ymgynghorwyr cynllunio o ran gwaredu Bodlondeb yn ogystal â gwaith dylunio ac ymgynghoriaeth sy’n gysylltiedig ag adleoli swyddogaethau i Goed Pella. 

Y mis hwn fe gefnogodd cynghorwyr* friff y prosiect a chymeradwyo £255,000 i ddatblygu’r achos busnes llawn.

I fod yn eglur, nid oes bwriad i werthu’r parc ym Modlondeb na’i roi ar brydles, parc sy’n cynnwys y cae criced, cyrtiau tennis ayb, na’r senotaff na’r Warchodfa Natur Leol. Nid ydym wedi bod yn meddwl am hynny o gwbl. Bydd y Cyngor yn edrych ar gadw’r rhain a throsglwyddo hawliau ar elfennau o’r tir, fel nad oes niwed i’w defnydd parhaus a mynediad i’r cyhoedd. Fel y crybwyllwyd uchod, pe bai’r Cyngor yn trosglwyddo swyddfeydd Bodlondeb i drydydd parti, byddai ar ffurf prydles hirdymor lle byddai yna delerau ac amodau llym, a fyddai’n rhoi rheolaeth ychwanegol y tu hwnt i’r statws adeilad rhestredig.

Bydd paratoi’r achos busnes llawn yn cymryd amser, a’r disgwyl yw y bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w ystyried ddechrau’r flwyddyn nesaf.

 

*Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau (04/09/23) a’r Cabinet (12/09/23).

Wedi ei bostio ar 25/09/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content