Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Strategaeth Gofod Swyddfa

Strategaeth Gofod Swyddfa


Summary (optional)
start content

Strategaeth Gofod Swyddfa

Mae Cabinet Conwy wedi cefnogi cynnig i baratoi achos busnes llawn i gael eu gwasanaethau swyddfa mewn un lleoliad yng Nghoed Pella, Bae Colwyn.

Mewn adroddiad cynhwysfawr yn nodi’r cefndir; y sefyllfa bresennol, a’r angen a rhagwelir ar gyfer swyddfeydd y Cyngor yn y dyfodol, gofynnwyd i Gynghorwyr ystyried y dewisiadau sydd ar gael iddynt, a phenderfynu sut roeddent eisiau symud ymlaen.

Bu i’r Pwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau gyfarfod ar ddydd Llun 22 Mai, ac yna cyflwynwyd eu hargymhellion ynghyd â’r adroddiad llawn i’r Cabinet.

Mewn cyfarfod ar 13 Mehefin, cytunodd y Cabinet y dylai’r Cyngor baratoi achos busnes llawn a fyddai, os yn ymarferol, yn cyflwyno strategaeth un swyddfa. Y swyddfa honno fyddai Coed Pella. 

Dywedodd y Cyng. Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Rwy’n falch bod gennym ffordd glir ymlaen. Hoffwn ddiolch i’r holl aelodau etholedig am roi eu sylw llawn ac ystyriaeth fanwl i’r mater hwn. 

“Nid yw’r rhan fwyaf o’n staff yn gweithio mewn swyddfa, maent yn gweithio yn ein hysgolion, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd neu’n gwneud gwaith ailgylchu/sbwriel yn symudol, felly mae’n hanfodol bod ein gwasanaethau canolog yn cael eu trefnu mor effeithlon â phosib i gefnogi’r gwaith hwnnw sy’n digwydd yn ein cymunedau.”

“Rydym eisiau gostwng ein costau refeniw, gwneud y defnydd gorau o’n hasedau, gostwng ein hallyriadau carbon, osgoi costau atgyweirio a chynnal sylweddol, ac efallai creu cyfle ar gyfer datblygiad economaidd.” 

“Fel rhan o ddatblygu’r achos busnes llawn, byddwn angen ystyried sut i sicrhau dyfodol hirdymor adeilad Bodlondeb, rhan ohono yn rhestredig Gradd 2.  Mae Bodlondeb yn adeilad unigryw a deniadol, a allai ddarparu budd economaidd ychwanegol i dref Conwy a’r sir ehangach drwy ail-bwrpasu.  Ond fel ei geidwaid, mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn rhoi ystyriaeth i’r lleoliad a’r amwynder cyhoeddus o’i amgylch. Wrth gwrs, byddai unrhyw ailddatblygiad arfaethedig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r broses ceisiadau cynllunio arferol.

“Edrychaf ymlaen at gael yr achos busnes llawn yn fuan y flwyddyn nesaf.”

 

Wedi ei bostio ar 06/07/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content