Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Promenâd Hen Golwyn Ar Agor

Promenâd Hen Golwyn Ar Agor


Summary (optional)
start content

Promenâd Hen Golwyn Ar Agor

Mae’r gwaith o wella amddiffynfeydd arfordirol Hen Golwyn ar fin cael eu cwblhau, ac mae llwybr a ffordd y promenâd bellach ar agor i’r cyhoedd rhwng Rotary Way a Cliff Gardens.

Roedd y prosiect gwerth bron i £18 miliwn, wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys adeiladu gwrthglawdd cerrig 720m o hyd o flaen y morglawdd presennol  gan ddefnyddio 160,000 tunnell o gerrig, codi’r promenâd a’r ffordd o 1.5 metr, ac ychwanegu platfform pysgota a grisiau newydd i’r traeth.  Caewyd ffordd y promenâd i ddechrau ym mis Mai 2021 am gyfnod o 18 mis, cyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sicrhau cyllid ychwanegol i gwblhau’r holl waith gofynnol yn yr ardal hon, gan ymestyn y prosiect i ddechrau 2024.

Mae’r cynllun bron â darfod, a gellir cwblhau’r darnau gwaith terfynol sy’n weddill, megis ychwanegu canllawiau ar y grisiau newydd, gyda’r ffordd ar agor.

“Hoffwn ddiolch i breswylwyr lleol am eu hamynedd a gobeithiwn y byddant yn mwynhau’r gwelliannau i’r promenâd,” meddai’r Cyng Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Isadeiledd. “Mae’r cyllid ychwanegol a gawsom gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i gwblhau’r holl waith sydd ei angen rhwng Rotary Way a Splash Point, ger y Bwâu.  Mae gennym gynlluniau’n barod ar gyfer yr adran olaf rhwng Porth Eirias a Rotary Way cyn gynted ag y bydd y cyllid ar gael.”

“Mae’r prosiect peirianneg sifil sylweddol hwn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i wella amddiffynfeydd morol ar hyd arfordir y sir. Bydd y Cyngor yn dechrau gweithio ar wella amddiffynfeydd arfordirol ym Mae Cinmel a Thowyn ar ôl yr haf, gyda chynlluniau ar y gweill a chyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer Llandudno a Llanfairfechan hefyd.”

Wedi ei bostio ar 12/04/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content