Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pyllau Padlo


Summary (optional)
start content

Pyllau Padlo

Datganiad 10/05/23:

Gallwn gadarnhau bod contractwr wedi'i nodi i wneud y gwaith angenrheidiol. Mae staff y Cyngor wedi cyfarfod â'r contractwr ac maent yn gweithio ar amserlen gyflawni.


Datganiad 26/04/23: 

Gwyddom fod ein pyllau padlo yn boblogaidd dros ben ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa. Roedd gennym drefniadau mewn lle i ymgymryd â’r gwaith dan gontract, ond yn anffodus cawsom ein gadael i lawr ar y funud olaf oherwydd problemau penodol o fewn y cwmni a gyflogwyd.  Rydym yn ceisio dod o hyd i ddatrysiad arall ar frys, gan gynnwys canfod nwyddau eraill sy’n ateb gofynion a argymhellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a sicrhau diogelwch pawb sy’n defnyddio ein pyllau padlo.  Yn y cyfamser, bydd gwaith paratoi yn dechrau ar y safle er mwyn gallu symud ymlaen â’r gwaith cyn gynted ag sy’n bosibl.


Datganiad 25/04/23:

Mae’n ddrwg iawn gennym gyhoeddi na fydd ein pyllau padlo yng Nghraig y Don, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos yn agor fel arfer ym mis Mai eleni.

Roeddem wedi cynnal archwiliad diogelwch llawn ar bob safle yn ddiweddar a chanfod bod rhai ardaloedd gyda risg uchel o lithro. 

Mewn ymateb i ganlyniadau yr arolwg diogelwch, roeddem yn bwriadu gwneud gwaith i baentio’r arwyneb gyda phaent gwrthlithro, ond yn anffodus mae’r ddarparwr a gosodwr yn y DU nawr yn methu ymgymryd â’r gwaith oherwydd salwch sydyn. 

Rydym yn ceisio dod o hyd i ddatrysiad amgen neu hyfforddiant i gontractwr arall i wneud y gwaith iechyd a diogelwch hanfodol hwn.

Dywedodd y Cyng Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn gwybod fod ein pyllau padlo yn boblogaidd iawn ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddatrys y sefyllfa.  Rydym yn sylweddoli pa mor siomedig fydd hyn i bobl sy’n byw ac yn ymweld â’n sir hardd ond mae diogelwch plant a theuluoedd sy’n defnyddio ein pyllau padlo yn flaenoriaeth i ni.”

Mae’r Cyngor hefyd yn cyflwyno cais am arian i uwchraddio’r holl byllau padlo ar hyn o bryd gan ein bod yn cydnabod eu bod yn ased pwysig i’n cymunedau. 

Mae gwybodaeth ar ystod eang o weithgareddau am ddim i deuluoedd, sydd ar gael drwy’r flwyddyn ar ein tudalen Facebook Datblygu Chwarae Ffit Conwy, tudalen Facebook Tîm Lles Cymunedol Conwy, gwefan Venue Cymru a gwefan Creu Conwy.   

 

 

Wedi ei bostio ar 25/04/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content