Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Paddling pools will reopen next season

Pyllau padlo'n ailagor yn y tymor gwyliau nesaf


Summary (optional)
start content

Pyllau padlo'n ailagor yn y tymor gwyliau nesaf

Bydd pedwar pwll padlo Conwy’n ailagor yn y tymor gwyliau nesaf ar ôl gwaith adnewyddu.

Mae’r Cyngor yn falch fod ganddo bedwar o’r unig bum pwll padlo cyhoeddus am ddim sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru ac mae’n cydnabod eu pwysigrwydd i bobl leol a’r economi ymwelwyr. Rydym wedi buddsoddi yn helaeth ym mhob un o’n pyllau padlo eleni i sicrhau bod eu dyfodol yn ddiogel ac rydym ni’n diolch am amynedd ein cymunedau tra oedd y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud, yn enwedig yn ystod y cyfnodau o oedi oherwydd problemau cyflenwadau ac yna’r tywydd gwlyb.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy, “Oherwydd y tywydd gwael ym mis Awst eleni a faint o waith trwsio oedd angen ei wneud, mae’r gwaith wedi cymryd mwy na’r disgwyl.  Mae’r pyllau padlo fel arfer yn cau ddiwedd Medi ac i osgoi rhagor o ansicrwydd, rydyn ni wedi penderfynu peidio ag agor y pyllau padlo eleni, a bydd hynny’n caniatáu i’r gwaith gael ei gwblhau i’r safon uchaf un.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wynne: “Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad mawr i ddiogelu dyfodol hirdymor yr asedau cymunedol yma sydd mor boblogaidd.

“Bydd y pedwar pwll yn ailagor ddechrau’r tymor gwyliau nesaf, wedi’u hadnewyddu fel y gall pawb eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Yn Llanfairfechan, mae gwaith wedi’i wneud ar yr uniadau ehangu, y grisiau oedd wedi torri a gwisgo, a’r llwybrau o amgylch y pwll, ac mae’r system cyflenwi dŵr wedi’i gwella hefyd.  Rydym ni hefyd wedi adnewyddu’r llwybr cerdded wrth bwll Penmaenmawr, ac wedi gwneud gwaith ar waelod y pwll a’r haenau oddi tano.

Roedd angen mwy o waith ar byllau padlo Craig-y-don a Llandrillo-yn-Rhos oherwydd nifer o broblemau strwythurol. 

Yng Nghraig-y-don, mae’r gwaith yn parhau ar yr uniadau i sicrhau nad yw hen symudiadau yn y tir a hen holltau’n effeithio ar y wyneb newydd. Ar ôl ei gwblhau, bydd modd llenwi’r uniadau a llyfnhau’r wyneb cyn gosod yr haen ddiogelwch newydd drostynt.

Yn Llandrillo-yn-Rhos, comisiynodd y Cyngor beiriannydd strwythurol i ymdrin â phroblemau gyda dŵr daear yn treiddio i’r pwll. Mae’r slabiau concrit diffygiol wedi’u dadorchuddio’n llwyr i weld pa waith trwsio sydd angen ei wneud. Pan fydd y gwaith yma wedi’i gwblhau, bydd modd gosod yr haen ddiogelwch newydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Aaron Wynne: “Hoffwn sicrhau ein trigolion ein bod wedi ymrwymo i gwblhau’r gwaith ar bob un o’r pedwar safle er budd y rhai sy’n byw yn y sir ac yn ymweld â hi. Er ein bod yn deall siom pobl eleni, rydyn ni’n falch ein bod wedi gallu buddsoddi i warchod dyfodol pob un o’r pedwar pwll padlo ac edrychwn ymlaen at eu hagor nhw y flwyddyn nesaf.”

 

Wedi ei bostio ar 08/09/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content