Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023-2024 - Rhyddhad o 75%
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa busnesau lleol i fanteisio ar gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2023-2024.
O 1 Ebrill 2023 gallai busnesau cymwys gymhwyso ar gyfer 75% o ryddhad ardrethi dan gynllun newydd Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru. Gall busnesau fel siopau, tafarndai, bwytai, caffis a siopau trin gwallt wneud cais am y rhyddhad hwn. Amcangyfrifir y gall oddeutu 900 o fusnesau yn Sir Conwy fanteisio ar y cynllun gwerth £7 miliwn hwn.
Mae busnesau wedi cael gwybodaeth am y rhyddhad gyda’u biliau blynyddol, ond mae’r Cyngor am eu hatgoffa bod angen ymgeisio amdano.
Meddai’r Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid, Refeniw a Budd-daliadau, “Arferai rhyddhad ardrethi gael ei roi yn awtomatig, felly mae’n bwysig bod busnesau yn cofio bod angen iddyn nhw wneud cais amdano fel nad ydyn nhw’n colli allan.”
Yn ôl meini prawf Llywodraeth Cymru bydd swm yr ardreth wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ar draws Cymru gyfan.
I wneud cais, ewch i wefan y Cyngor yn www.conwy.gov.uk/trethibusnes
Wedi ei bostio ar 11/07/2023