Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rates Relief Scheme for Retail, Leisure & Hospitality 2024/2025 - 40% Relief

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Newydd ar gyfer Busnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024/25 – Rhyddhad o 40%


Summary (optional)
start content

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Newydd ar gyfer Busnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024/25 – Rhyddhad o 40%

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa busnesau lleol i fanteisio ar gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2024/2025.

O 1 Ebrill 2024 mae busnesau cymwys yn gallu derbyn rhyddhad ardrethi o 40% dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru.

Gall busnesau fel siopau, tafarndai, bwytai, caffis a siopau trin gwallt wneud cais am y rhyddhad hwn.

Amcangyfrifir y gall oddeutu 860 o fusnesau yn Sir Conwy fanteisio ar y cynllun gwerth £3.7 miliwn hwn.

Mae busnesau’n derbyn gwybodaeth gyda’u biliau blynyddol, ond mae’r Cyngor yn eu hatgoffa bod angen ymgeisio am ryddhad.

Meddai Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet dros Economi Gynaliadwy, “Yn y gorffennol, roedd rhyddhad ardrethi’n digwydd yn awtomatig, felly mae’n bwysig bod busnesau yn cofio bod arnyn angen gwneud cais i’r Cyngor fel nad ydyn nhw ar eu colled.”

Yn ôl meini prawf Llywodraeth Cymru bydd swm yr ardreth wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ar draws Cymru.

I wneud cais am y rhyddhad, ewch i wefan y Cyngor yn www.conwy.gov.uk/trethibusnes

 

Wedi ei bostio ar 15/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content