Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Road Safety Wales - See and be seen

Diogelwch Ffyrdd Cymru - Gweld a chael eich gweld


Summary (optional)
start content

Diogelwch Ffyrdd Cymru - Gweld a chael eich gweld

Mae’r clociau wedi troi, ac mae cyfnodau hirach o dywyllwch yn y bore a gyda'r nos, ochr yn ochr ag amodau tywydd gwaeth, yn golygu bod y risg o fod ynghlwm â gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn uwch.  

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cynghori defnyddwyr y ffyrdd fod angen paratoi a chymryd gofal ychwanegol mewn  amodau tywyllach. Yn y tywyllwch, mae'n bwysicach fyth bod gyrwyr yn chwilio am bob defnyddiwr ffordd sy’n  agored i niwed, a ddylai hefyd ystyried pa mor hawdd i’w gweld ydyn nhw.  

Mae'r terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd mewn ardaloedd adeiledig ledled Cymru yn golygu bod gan yrwyr fwy  o amser i adnabod peryglon ac i yrru'n briodol yn ymyl pobl eraill. Yn anffodus, fodd bynnag, ni fedrwn gymryd yn  ganiataol bod gyrwyr yn cydymffurfio â’r gofynion. Mae gyrwyr yn parhau i droseddu ac mae angen i bob un ohonom sy'n defnyddio'r ffyrdd aros yn effro i ymddygiad gyrru gwael ac anghyfreithlon er mwyn lleihau ein risg o gael ein hanafu.  

Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, "Ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, rhaid i yrwyr gadw at  gyfraith traffig ffyrdd bob amser a dilyn y rheolau a'r canllawiau yn Rheolau'r Ffordd Fawr.  

"Mewn tywydd tywyll a newidiol mae'n hanfodol bod gyrwyr yn gallu gweld defnyddwyr ffyrdd bregus ac yn gallu arafu  a dod â'u cerbyd i stop yn ddiogel. 

"Rydym ni’n annog gyrwyr i wirio bod eu cerbyd mewn cyflwr sy'n addas i'r ffordd. Rhaid i bob teiar fod heb eu difrodi,  gyda digon o afael a bod wedi’u chwythu i'r pwysau cywir.  

"Rhaid i bob golau fod yn lân ac yn gweithio'n iawn, gyda’r botel hylif golchi’n llawn i gadw'r ffenestr flaen yn glir; mae’r  gallu i weld pobman heb rwystr yn hanfodol ar gyfer gyrru'n ddiogel ac amddiffyn defnyddwyr ffyrdd sy'n agored i  niwed. 

"Gall cerddwyr a beicwyr gynyddu eu hamlygrwydd yn hawdd trwy wisgo lliwiau llachar yn ystod y dydd, ac yn y tywyllwch dewis ategolion adlewyrchol, esgidiau neu ddillad a all gael eu gweld yng ngoleuadau cerbydau.  

"Mae croesi'r ffordd wrth fannau croesi pwrpasol pryd bynnag y bo modd bob amser yn opsiwn mwy diogel, yn  enwedig wrth gerdded neu reidio yn y tywyllwch." 

Atgoffir beicwyr bod rhaid cael golau blaen gwyn a golau cefn coch ar eu beic wrth reidio, gall cerddwyr ar y llaw arall wneud  defnydd da o dortsh safonol neu dortsh ffôn symudol. 

Gall aelodau o'r cyhoedd sydd wedi gweld troseddau gyrru roi gwybod amdanynt ac uwchlwytho tystiolaeth fideo neu  ffotograffig yma: gosafesnap.cymru 

Mynnwch weld a chael eich gweld ar y ffordd yr hydref hwn a chwarae eich rhan i leihau nifer yr anafiadau ar y  ffyrdd yng Nghymru. 

 

Wedi ei bostio ar 03/11/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content