Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Road resurfacing: Coed Coch Road, Old Colwyn

Ailwynebu ffordd: Ffordd Coed Coch, Hen Golwyn


Summary (optional)
start content

Ailwynebu ffordd: Ffordd Coed Coch, Hen Golwyn

Beth sy’n digwydd?

Rydym ni’n rhoi wyneb newydd ar Ffordd Coed Coch, o’r gyffordd â Lôn Peulwys i’r de o’r gyffordd â Phen-y-Bryn.

Bydd ein contractwr yn gwneud cymaint o’r gwaith hwn â phosibl gyda signalau traffig ac yn tywys traffig mewn confoi drwy’r safle. Ond, gan fod y ffordd yn gul, bydd arnom ni angen cau’r ffordd ar brydiau.

A fydd hyn yn effeithio ar barcio?

Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn.  

Siaradwch gyda’r contractwr ar y safle i drafod os a phryd y gallwch chi gael mynediad. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr drwy’r adeg.

Beth yw rhoi wyneb newydd?

Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)

Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau

Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol

Cam 4 – gosod haen bondio, i sicrhau bod yr wyneb newydd yn glynu

Cam 5 – gosod yr wyneb newydd

Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri

Cam 7 – ail-baentio’r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.  Bydd y wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.

Cwestiynau?

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr gyflawni'r gwaith hwn.

Wedi ei bostio ar 04/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content