Stori a thamaid yn llyfrgelloedd Conwy
Mae gwasanaeth llyfrgelloedd Conwy yn falch o allu cynnig bwyd a diod am ddim i ddarllenwyr ifanc yr haf hwn diolch i arian nawdd.
Mae Harlech Foods Ltd yn darparu byrbryd a diod ar gyfer hyd at 600 o blant ar draws deg o lyfrgelloedd Sir Conwy dros wyliau’r haf.
Mae’r fenter Snac a Stori wedi dechrau’r flwyddyn ddiwethaf fel rhan o’r her flynyddol, Sialens Ddarllen yr Haf. Mae’n rhoi cyfle i blant oedran ysgol i dreulio amser mewn llyfrgell gyda phlant eraill yr un oed ac i fwynhau stori a thamaid.
Meddai Sharon Morgan, Prif Lyfrgellydd a Rheolwr Gwybodaeth: “Rydym yn falch o allu cynnal menter Snac a Stori unwaith eto eleni, ni fyddai’n bosib heb gefnogaeth Harlech a’r cwmnïau lleol sy’n cydweithio â nhw. Rydym yn gobeithio bydd y plant sy’n dod i’r llyfrgell yn edrych ymlaen at gofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf a’r thema eleni yw ‘Ar eich Marciau, Barod, Darllenwch!”
Mae Harlech Foods Ltd yn darparu cyflenwadau arlwyo i holl ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Maent wedi cyflenwi Snac a Stori gyda chynnyrch gan gyflenwyr Cymreig lleol, The Pudding Compartment a Radnor Hills.
Dywedodd Stephen Griffiths o Harlech Foods: “Yn Harlech Foods mae gennym ethos cryf o gefnogi’r gymuned pan fo hynny’n bosib. Rydym wrth ein bodd o fod yn gallu cefnogi Snac a Stori. Mae’r prosiect yn gyfle gwych i ni roi rhywbeth yn ôl sydd o fudd i’r plant hynny sy’n ymweld â’r llyfrgelloedd ar draws Conwy'r haf hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Harlech Foods a’u cyflenwyr am helpu i wireddu’r fenter Snac a Stori unwaith eto yn llyfrgelloedd Conwy eleni. Mae ein llyfrgelloedd yn gyfleusterau anhygoel i blant a’u teuluoedd yn ystod gwyliau’r haf, a thrwy gydol y flwyddyn hefyd, gan ddarparu adnoddau, gweithgareddau, gwybodaeth a chyngor sydd o fudd mawr i bawb sy’n ymweld.”
Darganfyddwch mwy am Sialens Ddarllen yr Haf eleni ar: https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/
Darganfyddwch mwy am sesiynau Snac a Stori yn: AM DDIM – Sesiynau Snac a Stori yn Llyfrgelloedd Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 14/07/2023