Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwasanaeth Bws T19

Gwasanaeth Bws T19


Summary (optional)
start content

Gwasanaeth Bws T19

Roeddem yn siomedig i glywed gan Llew Jones eu bod wedi penderfynu cael gwared ar wasanaeth bws T19.

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi cymhorthdal i’r gwasanaeth hwn ac felly nid oes arian wedi’i dynnu’n ôl – mae’n wasanaeth masnachol y mae’r gweithredwr wedi dweud nad yw bellach yn hyfyw iddynt ei gynnal. Fel gyda phob gwasanaeth bws masnachol, mae unrhyw benderfyniadau o'r fath yn fater i gwmnïau preifat.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb dros ddysgwyr, ac rydym wedi cysylltu â myfyrwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth T19 i roi gwybod iddynt am y trefniadau newydd rydym wedi’u gwneud er mwyn iddynt allu cyrraedd yr ysgol neu’r coleg.

Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i edrych ar opsiynau ar gyfer teithwyr eraill, i liniaru effeithiau gwaredu’r gwasanaeth.

Mae sawl gwasanaeth bws a thrên arall yn Nyffryn Conwy – mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan TrawsCymru yma: T19 - Beth yw fy opsiynau teithio? - Trafnidiaeth Cymru (traws.cymru).

Gall teithwyr sy’n gymwys i deithio’n rhatach ddefnyddio eu tocyn teithio ar reilffordd Dyffryn Conwy rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.

Ydych chi’n gymwys i dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol neu’r coleg ac a ydych chi ar hyn o bryd yn defnyddio’r gwasanaeth T19 i fynd yno? 
Rydym wedi anfon llythyr atoch chi gyda manylion eich trefniadau cludiant newydd. 
Heb dderbyn eich llythyr? Anfonwch e-bost at passengertransport@conwy.gov.uk gyda’ch manylion llawn (gan gynnwys i ba ysgol neu goleg rydych chi’n mynd) ac fe fyddwn yn cysylltu gyda chi gyda gwybodaeth.

 

 

Wedi ei bostio ar 09/02/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content