Newyddion diweddaraf (21/09/23): Ysgol Maes Owen – RAAC
Rydym wedi bod yn cynnal ymchwiliadau pellach yn Ysgol Maes Owen i ddarganfod cymaint ag y gallwn am y Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn adeilad yr ysgol.
Roedd RAAC wedi'i leoli mewn dwy ardal o'r ysgol ac mae ei gyflwr wedi'i wirio'n llawn.
Mae gwaith yn awr yn digwydd i dynnu canopi allanol ac i ailosod y nenfwd a'r goleuadau yn yr ystafelloedd dosbarth a'r coridor lle gwnaed gwaith ymchwilio. Rydym yn disgwyl i'r gwaith hwn gymryd tua 2 wythnos.
Mae'r ymchwiliadau wedi cadarnhau nad oes RAAC yn neuadd yr ysgol. Mae gan neuadd yr ysgol ei mynedfa ei hun ac ni fydd y gwaith yn effeithio arni, felly, mewn cytundeb â’r pennaeth, rydym wedi penderfynu defnyddio'r neuadd ar gyfer dosbarthiadau tra bo'r gwaith yn cael ei wneud.
Mae rhieni wedi cael eu hysbysu ynghylch y trefniadau sydd wedi’u gwneud ar gyfer eu plant.
Llywodraeth Cymru - Cwestiynau Cyffredin: Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC): cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU
Wedi ei bostio ar 21/09/2023