Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Warm hubs support seen across Conwy County last winter

Cefnogaeth i Ganolfannau Clyd wedi'i gweld ar draws Sir Conwy dros y gaeaf y llynedd


Summary (optional)
start content

Cefnogaeth i Ganolfannau Clyd wedi'i gweld ar draws Sir Conwy dros y gaeaf y llynedd

Yn ystod diwedd 2022 a dechrau 2023, bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi menter Llywodraeth Cymru i ddod â Chanolfannau Clyd i ganol Conwy.

Mae disgwyl y bydd nifer o bobl yn cael trafferth cadw eu cartrefi ar dymheredd cyfforddus dros y gaeaf, yn enwedig y rhai sydd gartref drwy’r dydd, yr henoed a’r rhai diamddiffyn. Sefydlwyd Canolfannau Clyd i gynnig amgylchedd diogel, hygyrch a chynnes yn ystod y dydd i helpu’r rhai sy’n wynebu tlodi tanwydd eithafol.

Yn ôl ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn dechreuol o gyllid ar draws Cymru i gefnogi cymunedau i ddatblygu Canolfannau Clyd neu ymestyn a gwella darpariaethau Canolfannau Clyd presennol.

Bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn llwyddiannus wrth sicrhau ychydig llai na £40,000 o’r cyllid hwn i’w rannu trwy’r cynllun Canolfannau Clyd i gynnig lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol y gallai pobl fynd i gadw’n gynnes yn ystod misoedd y gaeaf.

Gan weithio mewn partneriaeth â CGGC, bu 38 o grwpiau cymunedol ar draws y Sir yn llwyddiannus wrth wneud cais am y cyllid gan ddarparu croeso cynnes a chyfeillgar i bawb a fu’n ymweld, a chynnig diodydd poeth am ddim, cyfleoedd i gymdeithasu a lle i ofyn am help, os oes angen.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd ac Aelod Cabinet Datblygu Economaidd, “Roeddem yn falch o sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun Canolfannau Clyd. Roedd yn braf iawn gweld cynifer o grwpiau cymunedol yn gwneud cais am y cyllid ac yn barod i agor eu cyfleusterau i ddarparu lle cynnes a diogel yn ystod yr amseroedd anodd hyn.  Gwelsom hefyd fod dod â phobl at ei gilydd a mynd i’r afael ag unigedd o fudd mawr hefyd.”

Dywedodd llefarydd o Eglwys Fethodistaidd Sant Ioan, Conwy, “Daeth y ganolfan yn lle cynnes a diogel am bob math o resymau, ac i bob math o bobl. Mae’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain yn gwerthfawrogi’r ymdeimlad o berthyn, a chyfle i gwrdd â ffrindiau a phobl newydd”.

“Rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o barhau trwy’r haf gyda digwyddiadau awyr agored gan gynnig gweithgareddau a phryd o fwyd trwy farbeciw neu bicnic, ar y cyd â grwpiau cymunedol eraill. Gallai’r pwysau o ran anghenion gwresogi leihau dros yr haf, ond mae cost bwyd yn dal i fod yn her i rai. Mae llawer o gysylltiadau da wedi’u creu trwy’r canolfannau clyd hefyd ac rydym yn awyddus i alluogi’r gymuned hon i barhau i gwrdd a ffynnu”.

Nid dim ond y grwpiau cymunedol fu’n chwarae eu rhan, roedd Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhan annatod o’r ddarpariaeth hefyd.  Nododd llawer o’r llyfrgelloedd mai’r prif bethau a ddaeth o’r canolfannau clyd oedd y grwpiau cyfeillgarwch newydd a ffurfiwyd gan bobl a fu’n unig o’r blaen. Maen nhw i gyd yn dal i fod mewn cyswllt gan gwrdd yn rheolaidd hyd heddiw, a ffonio ei gilydd i holi sut maen nhw’n teimlo neu a oes angen unrhyw beth arnynt”. 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, “Roedd ein Llyfrgelloedd yn darparu croeso cynnes dros fisoedd y gaeaf hefyd. Mae gan ein 10 llyfrgell gyfleusterau anhygoel ac yn darparu adnoddau, gweithgareddau, gwybodaeth a chyngor gwerthfawr ar gyfer ein trigolion drwy gydol y flwyddyn, ac maen nhw ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio."

 

Wedi ei bostio ar 16/06/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content