Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwaith yn cychwyn ar safle Bwthyn y Ddôl

Gwaith yn cychwyn ar safle Bwthyn y Ddôl


Summary (optional)
start content

Gwaith yn cychwyn ar safle Bwthyn y Ddôl

Croesawodd Wynne Construction gynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i safle Bwthyn y Ddôl ar gyfer seremoni torri’r dywarchen i nodi dechrau’r gwaith ar y Ganolfan Asesu Plant newydd.

Gyda phrofiad o weithio gyda’r tri sefydliad ar ddatblygiadau mawr ledled gogledd Cymru, mae cwmni Wynne, sydd wedi’i leoli ym Modelwyddan, wedi cymryd yr awenau fel prif gontractwr y prosiect gwerth £3.8 miliwn i ddylunio ac adeiladu’r uned asesu plant newydd.

Nod Bwthyn y Ddôl, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yw sicrhau mwy o gefnogaeth i blant yng ngogledd Cymru gydag anghenion cymhleth a’u teuluoedd.

Dylai’r cyfleuster hwn sy’n cael ei adeiladu’n bwrpasol ym Mae Colwyn ac sy’n cynnwys tri adeilad unllawr, gael ei gwblhau ym mis Medi 2024, a dyma fydd y cyfleuster cyntaf o’i fath yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Meddai Graham Dickson, rheolwr contractau Wynne Construction: “Mae adeiladu cyfleusterau cymunedol hanfodol yn brofiad gwerth chweil i’r tîm, ac fel rhan o’r broses ddylunio, rydym wedi ymgorffori nodweddion i wneud y ganolfan yn lle deniadol a diogel i blant, eu teuluoedd a’r tîm gofal.”

Mae’r prosiect yn cynnwys uned asesu bwrpasol i gynnal therapïau a gofal, ynghyd â llety i’r plant gael aros yno.

Meddai’r Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu Conwy: “Bydd Bwthyn y Ddôl yn fan lle gall tîm preswyl ofalu am blant, eu helpu a’u goruchwylio yn ddiogel, a lle gall y plant a’u rhieni a’u gofalwyr gwrdd â thîm therapiwtig ar y safle.   Rydym wrth ein boddau’n gweld y gwaith yn cychwyn ar y safle a’r prosiect cyffrous a gwerth chweil hwn yn mynd rhagddo unwaith eto.”

Meddai’r Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd Sir Ddinbych:  “Mae’n gyffrous gweld y camau cyntaf yn cael eu cymryd yn y cynllun arloesol hwn ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych.  Rydw i wir yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus. Bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r plant hynny a’u teuluoedd sydd angen cymorth cymhleth. Mae’r model gofal hwn wedi cael ei ddatblygu i ganolbwyntio ar anghenion penodol plant a phobl ifanc, gan ddefnyddio arbenigedd tîm aml-ddisgyblaethol.”

Mae prosiect Bwthyn y Ddôl wedi’i ariannu drwy Gronfa Gofal Integredig a Chronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru.

 

Wedi ei bostio ar 24/07/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content