Mae Gwasanaeth Archifau Conwy yn gofalu am gofnodion hanesyddol Sir Conwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn gofyn i drigolion Conwy – yr hen a’r ifanc a’r rhai yn y canol – i ysgrifennu llythyr i’r dyfodol yn disgrifio eu bywyd o dan y cyfyngiadau symud.
Beth sydd wedi newid, beth yw eu gobeithion a’u gofidiau, beth sydd wedi bod yn annisgwyl?
Rydym yn croesawu atgofion gweledol mewn ffurf gwaith celf o bob math hefyd.
Anfonwch at archifau.archives@conwy.gov.uk pryd bynnag y byddwch yn barod i’w rhannu. Gallwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a’ch oed os dymunwch.