Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwydded Casgliad Stryd


Summary (optional)
Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno casglu arian neu werthu eitemau i elusen neu ddibenion eraill yn y stryd, wneud cais am Drwydded Casgliad Stryd.
start content

Sut i wneud cais

Rhaid i bob cais gael ei wneud drwy lenwi’r Ffurflen Cais am Drwydded Casgliad Stryd ddim llai nag un mis cyn y casgliad. Mewn amgylchiadau arbennig, gall yr awdurdod leihau'r amserlen hon. 

Rhaid ceisio caniatâd gan berchennog y tir, a rhaid cyflwyno caniatâd ysgrifenedig gyda'r cais.

Ffioedd

Nid oes ffi'n daladwy am Drwydded Casgliad Stryd

Cymhwyster


Gydymffurfio â’r Rheoliadau Casgliadau Stryd

Gellir ond gwneud casgliadau yn yr ardal y cytunwyd arni gan yr awdurdod a dim ond ar y diwrnod/au a ganiateir.

Ni fydd unrhyw berson o dan un ar bymtheg oed yn cael caniatâd i weithredu fel casglwr. Mae'n rhaid i bob blwch casglu gael ei selio a rhaid iddo ddangos enw'r elusen neu'r gronfa mewn lle amlwg.

Unwaith y bydd y casgliad wedi digwydd, rhaid i ddatganiad elw gael ei anfon ymlaen at yr adain drwyddedu o fewn un mis. Rhaid i gyfrifydd cymwys neu unigolyn annibynnol sy'n dderbyniol i'r adain lenwi hon.                              

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Prosesu ac Amserlenni

Rhaid i gais ddod i law un mis cyn y dyddiad casglu

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Dim

Manylion cyswllt:

  • Trwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk

  • Dros y Ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00 i 12:30

  • Trwy'r post:

    Adain Drwyddedu
    Blwch Post 1
    Conwy
    LL30 9GN


Cais Am Ganiatâd i Gasglu Ar Y Stryd

Rheoliadau Casgliadau Stryd

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content