Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Trwyddedau Masnachu ar y Stryd

Masnachu ar y Stryd


Summary (optional)
Mae Caniatâd Masnachu ar y Stryd yn rhoi caniatâd i fasnachwr werthu eu nwyddau neu eitemau ar stryd a ddynodwyd yn stryd â chaniatâd.
start content

Sut i wneud cais

Gydymffurfio â’r Polisi Masnachu ar y Stryd 2022

Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig i'r Cyngor gan ddefnyddio'r ffurflen gais berthnasol, sy’n gorfod cynnwys:

  • Manylion yr holl strydoedd neu strydoedd yr hoffech fasnachu arnynt
  • Y math o nwyddau sy'n cael eu gwerthu
  • Y dyddiau a'r amseroedd y dymunwch fasnachu a’r nwyddau neu’r eitemau rydych yn bwriadu eu gwerthu.
  • Y math o gerbyd / ciosg sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwerthu nwyddau.
  • Byddwch hefyd dros 17 oed ac angen darparu dau lun o'ch hun, ac unrhyw gymhorthwyr

Bydd trwyddedau’n cael eu gwrthod os bydd unrhyw un o'r seiliau canlynol yn bodoli:

  • Nid oes digon o le ar y stryd rydych yn dymuno masnachu arni, heb achosi ymyrraeth neu anghyfleustra i ddefnyddwyr y stryd
  • Rydych yn anaddas i ddal trwydded am unrhyw reswm a wnaed yn hysbys i'r Cyngor
  • Rydych wedi methu talu ffioedd sy'n ddyledus yn y gorffennol dan ganiatâd masnachu ar y stryd arall
  • Os yw'r cais yn ymwneud â stryd waharddedig
  • Unrhyw reswm rhesymol arall

Ffioedd

Prif Safle Sefydlog

  • Caniatâd Sefydlog: £1,425

Safle Safonol

  • Caniatâd Sefydlog (Blynyddol): £990

Marchnad fasnachol/deithiol (ac eithrio strydoedd gwaharddedig)

  • Un diwrnod: £195
  • Diwrnodau dilynol (uchafswm o 3 diwrnod): £100

Digwyddiad arbennig/tymhorol (ac eithrio strydoedd gwaharddedig)

  • Fesul diwrnod: £40
  • Adnabod masnachwr / cymhorthydd: £32
  • Caniatâd / Trwydded Amnewid (papur): £25
  • Gwiriad cyn ymgeisio: £35
  • Cyngor cyn ymgeisio: £50 1 awr (yn cynnwys gwiriad)
  • Plât Cerbyd neywdd: £38


Cymhwyster

Bydd y cyngor naill ai’n caniatáu’r cais neu’n cyflwyno rhybudd i chi o fewn amser rhesymol.

Bydd y Cyngor yn ymgynghori os bydd angen, gydag unrhyw asiantaeth neu sefydliad yr ystyrir yn addas.

Bydd y rhybudd yn cael ei gyflwyno os bydd y cyngor yn bwriadu gwrthod y cais, yn ei ganiatáu ar wahanol delerau i'r rhai y gwnaethpwyd cais amdanynt, cyfyngu masnachu i le penodol mewn stryd, amrywio amodau trwydded neu ddirymu trwydded.

Mae'r rhybudd yn manylu rhesymau dros eu penderfyniad ac yn datgan, o fewn saith niwrnod i'r rhybudd, y gallwch ofyn yn ysgrifenedig am y cyfle i wneud sylwadau.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Prosesu ac Amserlenni

Caiff pob cais ei ystyried ar eu rhinweddau eu hunain a bydd y drwydded yn cael ei chynhyrchu ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo.

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod Caniatâd Masnachu ar y Stryd. Fodd bynnag, efallai y bydd y penderfyniad neu'r weithdrefn a ddilynir gan y Cyngor yn agored i gais i Adolygiad Barnwrol.

Manylion cyswllt:

  • Trwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk

  • Dros y Ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00 i 12:30

  • Trwy'r post:

    Adain Drwyddedu
    Blwch Post 1
    Conwy
    LL30 9GN

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content