Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Hysbysir drwy hyn bod y Cyngor, dan Adran 65 y Ddeddf uchod, yn bwriadu amrywio’r Tabl Prisiau ar gyfer Teithiau Cerbydau Hacni (Tacsis) yn unol â’r canlynol:
Amrywio’r Ffi Uchaf i:
Am y filltir gyntaf ac os nad yw'r pellter yn fwy nag un filltir: £4.00
Am bob 1/10 o filltir, neu bob rhan o 1/10 o filltir heb ei chwblhau wedi hynny: £0.35
Mae copi o’r hysbysiad hwn ar gael i’w archwilio yn ystod oriau gwaith arferol ar yr hysbysfyrddau cyhoeddus yn Neuadd y Dref, Llandudno a Choed Pella, Bae Colwyn, ac ar-lein ar www.conwy.gov.uk
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiad i’r amrywiad arfaethedig yn ysgrifenedig i’r sawl a enwir isod.
Os na fydd y sawl a enwir isod yn cael unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig erbyn 24 Ebrill 2023, neu os tynnir unrhyw wrthwynebiadau a wnaed erbyn y dyddiad hwn yn eu holau, bydd y ffioedd newydd yn dod i rym ar 25 Ebrill 2023.
Fel arall, bydd y Cyngor yn pennu dyddiad na fydd yn hwyrach na dau fis ar ôl 24 Ebrill 2023 i’r amrywiad ddod i rym, gyda neu heb newidiadau, ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau.
Dyddiedig: 27 Mawrth 2023
Peter Brown
Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio a Thai
Gohebiaeth i'r:
Adain Drwyddedu
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG
E-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk