
Mae’r Cronfa Effaith Balchder Bro Conwy ar agor i geisiadau.
Bydd Sir Conwy yn cael £1.5 miliwn o gyllid cyfalaf a chaiff ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Bydd yn darparu cyllid tymor byr ar gyfer gwelliannau uniongyrchol i sicrhau bod mannau a lleoedd a gaiff eu gwerthfawrogi gan gymunedau yn cael eu gwella.
Amcanion y gronfa
Buddsoddiad yn y themâu canlynol, wedi’u dylunio i gryfhau cymunedau, meithrin balchder a chreu sylfeini ar gyfer twf economaidd:
- Mannau cymunedol
- Creu, ymestyn, gwella neu ailwampio cyfleusterau cymunedol presennol a galluogi sefydliadau cymunedol i gymryd rheolaeth o asedau lleol a gaiff eu tanddefynddio ond a gaiff eu gwerthfawrogi.
- Mannau cyhoeddus
- Gwella'r amgylchedd ffisegol mewn mannau cyhoeddus: Mannau gwyrdd neu sgwariau cyhoeddus newydd neu well, mannau chwarae awyr agored gwell, lleoedd chwaraeon/hamdden, celfi stryd, celf gyhoeddus neu arwyddion.
- Adfywio'r Stryd Fawr a chanol y dref
- Creu lleoedd mwy deniadol a chroesawgar lle mae pobl yn ymgynnull er mwyn annog gweithgarwch economaidd: Gwelliannau i flaen siopau, addasiadau sy'n golygu bod eiddo'n cael eu defnyddio eto, strydlun ac isadeiledd ar gyfer marchnadoedd rheolaidd.
Mae’n rhaid defnyddio’r cyllid i gyflawni effaith weladwy erbyn mis Mawrth 2027 ac mae’n 100% cyllid cyfalaf. Gellir gwario cyllid yn unrhyw le lle mae tystiolaeth o angen yn Sir Conwy.
Mesur effaith
Dyma'r metrigau a fydd yn cael eu defnyddio i fesur effaith:
- Nifer yr amwynderau/cyfleusterau a grëwyd neu sydd wedi eu gwella
- Faint o le masnachol sydd wedi'i gwblhau neu ei wella
- Faint o le cymunedol, diwylliannol, chwaraeon neu dreftdaeth sydd wedi'i greu neu ei wella
- Faint o fannau gwyrdd neu las a grëwyd neu sydd wedi eu gwella
- Faint o barth cyhoeddus a grëwyd neu sydd wedi ei wella
- Nifer yr ôl-osodiadau gwyrdd i adeiladau amhreswyl a/neu gyfleusterau
Cymhwysedd grant a lefelau cyllido
- Mudiadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned
- Ystod grant: £10,000–£100,000
- Gellir gwneud cais am hyd at 90% o gyfanswm costau'r prosiect
- Sector Breifat, SMEs ar gyfer Adfywio'r Stryd Fawr a chanol y dref
- Ystod grant: £5,000–£25,000
- Gellir gwneud cais am hyd at 70% o gyfanswm costau'r prosiect
Am ragor o wybodaeth ac i drafod syniadau prosiect cysylltwch â ni ar CronfaEffaith.BalchderBroConwy@conwy.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Dolenni allanol (ar gael yn Saesneg yn unig):