Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Cyllid Llywodraeth y DU Grant Busnes Cronfa Balchder Bro Conwy

Grant Busnes Cronfa Balchder Bro Conwy


Summary (optional)
start content

Mae'r gronfa hon bellach ar gau ar gyfer Ceisiadau.

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Bydd Cronfa Effaith Balchder Bro yn darparu cyllid tymor byr ar gyfer gwelliannau uniongyrchol i sicrhau bod mannau a lleoedd a gaiff eu gwerthfawrogi gan gymunedau yn cael eu gwella.

Mae Amcan cyffredinol y Gronfa wedi’i ddylunio i gryfhau cymunedau, meithrin balchder a chreu sylfeini ar gyfer twf economaidd:

Am ragor o wybodaeth, ewch I Pride in Place Impact Fund: prospectus - GOV.UK

Mae cynllun grant Busnes Cronfa Balchder Bro wedi’i gysylltu’n benodol â’r thema ganlynol.

Adfywio'r Stryd Fawr a Chanol y Dref

Creu lleoedd mwy deniadol a chroesawgar lle mae pobl yn ymgynnull er mwyn annog gweithgarwch economaidd. Gwelliannau i flaen siopau, addasiadau sy'n golygu bod eiddo'n cael eu defnyddio eto, strydlun ac isadeiledd ar gyfer marchnadoedd rheolaidd.

Ar hyn o bryd dim ond gan Fusnesau yn ardaloedd siopa craidd / canolfannau masnachol y trefi canlynol y gellir derbyn ceisiadau

  • Llanfairfechan
  • Penmaenmawr
  • Conwy
  • Cyffordd Llandudno
  • Deganwy
  • Llandudno a Craig y Don
  • Rhos on Sea
  • Bae Colwyn
  • Hen Colwyn
  • Llanrwst
  • Abergele a Phensarn
  • Bae Kinmel a Towyn

Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o HYD AT 70% ar wariant cyfalaf a/neu refeniw cymwys ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £25,000 yn cael eu cynnig.

Bydd grant Busnes Cronfa Balchder Bro yn galluogi darparu grantiau i fusnesau masnachol neu gymdeithasol lleol (pan fo gweithgarwch masnachol) sydd yn:

  • gobeithio sicrhau bod eiddo masnachol gwag yn cael eu defnyddio eto ac/neu
  • gobeithio cyflwyno technoleg carbon isel i’w heiddo busnes, yn benodol ynni solar, system wresogi carbon isel, mannau gwefru cerbydau trydan a goleuadau LED

Bydd angen i brosiectau trwy’r cynllun hwn allu dangos yr effaith ganlynol

  • Faint o le masnachol sydd wedi’i gwblhau neu ei wella – metrau sgwâr
  • Nifer yr ôl-osodiadau gwyrdd i adeiladau a/neu gyfleusterau amhreswyl – Nifer yr adeiladau


Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli a’u gweithredu yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 3 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.

Mae’r cynllun wedi’i dargedu at fentrau bach a chanolig (sy’n cyflogi hyd at 250 o bobl) gydag un ai trosiant o lai na €50 miliwn neu fantolen lai na €43 miliwn.

Bydd ceisiadau'n cael eu gwneud drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais bydd angen nifer o ddogfennau ategol eraill.

Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn i sicrhau bod yr holl wybodaeth ynghlwm cyn cyflwyno’r cais.

Canllawiau:


Mae'r cynllun grant hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i'r felin, yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn y cyfnod penodol.

Ni ystyrir fod ceisiadau wedi eu cyflwyno’n llawn hyd nes bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen wedi ei derbyn.

Cyn cyflwyno cais, gofynnir i chi siarad ag aelod o dîm Cymorth i Fusnesau Conwy.

Afonwch ebost i busnes@conwy.gov.uk.

end content