Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhaglen Balchder Bro


Summary (optional)
start content

Y wybodaeth ddiweddaraf: Mae hyd at £20 miliwn wedi’i ddyrannu i Gonwy.

Mae cynlluniau yn y broses o gael eu datblygu ar gyfer sut i ddefnyddio’r arian hwn yng Nghonwy. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ac unrhyw fanylion pellach yn fan hyn.

Mae hyd at £20 miliwn (hyd at £2 filiwn y flwyddyn dros ddeng mlynedd) wedi’i ddyrannu i Gonwy drwy Raglen Balchder Bro Llywodraeth Cymru.

Bydd y Rhaglen Balchder Bro’n blaenoriaethu cyllid, yn seiliedig ar ymgysylltiad â chymunedau, ar draws tri amcan craidd:

  • Adeiladu cymunedau cryfach: Dylai bod perthnasau cryf a synnwyr cyfun o berthyn i’w cymuned ym mhobman. Bydd hyn yn helpu i ddod â phobl ynghyd i adeiladu cadernid a chydlyniant cymunedol, gan helpu pobl i deimlo’n falch o’u hardal a theimlo’n ddiogel yn eu cymdogaeth.

  • Creu llefydd llewyrchus: Mae pob rhan o’r DU yn haeddu cael cymdogaethau a chymunedau bywiog gyda strydoedd mawr prysur, ystod dda o amwynderau lleol ac isadeiledd ffisegol o ansawdd uchel.

  • Cymryd Rheolaeth yn ôl: Caiff talent ei rannu’n gyfartal, ond nid yw hynny’n wir am gyfleoedd. Dylai bawb gael eu grymuso a theimlo rheolaeth dros eu bywydau a chael dweud eu barn am ddyfodol eu cymuned.

Dolenni allanol:

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content