Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hysbysiad Preifatrwydd Asiantiaid Gorfodi


Summary (optional)
Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn berthnasol i Adran Asiantiaid Gorfodi y Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC).
start content

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl gan Dîm Asiantiaid Gorfodi CBSC pan ydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â chasglu Treth y Cyngor, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, Ardoll Ardaloedd Gwella Busnes a Gwarantau Parcio sy’n orddyledus.

Mae’r Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau yn cynnwys yr adrannau canlynol:

  1. Ardoll Ardaloedd Gwella Busnes
  2. Treth y Cyngor
  3. Cymorth Treth y Cyngor
  4. Prosesu Delweddau Dogfennau
  5. Asiantiaid Gorfodi
  6. Asesu Budd-daliadau Tai
  7. Mân Ddyledwyr a Chysoni Incymau
  8. Ardrethi Annomestig Cenedlaethol

Mae gan bob adran ei hysbysiad preifatrwydd ei hun. I'w gweld, dilynwch y dolenni sydd i’w cael yn nes ymlaen yn yr hysbysiad hwn.


Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol

  • Darparu gwasanaeth. Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu gwasanaeth i chi.

    Mae anfon biliau a chasglu a gorfodi Treth y Cyngor, Trethi Annomestig Cenedlaethol ac Ardoll Ardaloedd Gwella Busnes a Dirwyon Parcio yn gyfrifoldeb statudol ar CBSC. Er mwyn galluogi i CBSC gyflawni ei ddyletswyddau/ rhwymedigaethau, mae angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol gennych chi gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, dyddiad geni, gwybodaeth ariannol a gwybodaeth bersonol arall i sicrhau bod gan CBSC y manylion cywir i gasglu’r symiau sy’n ddyledus sydd wedi’u pasio i’r Tîm Asiantiaid Gorfodol, pan mae prosesau deddfwriaethol perthnasol wedi'u dilyn.

    Efallai y bydd eich data cyswllt yn cael ei ddefnyddio gan Adran Treth y Cyngor, yr Adran Trethi Annomestig Cenedlaethol, Ardoll Ardaloedd Gwella Busnes a Dirwyon Parcio ar adegau, i gysylltu â chi i hyrwyddo’r gwasanaethau a chynnig diweddariadau ar y dulliau talu sydd ar gael.
  • Gwella gwasanaeth, cynllunio/ymchwilio gwasanaeth. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i wella’r gwasanaeth i chi a, lle bo hynny'n bosib', fel nad yw’n eich adnabod. Os ydych yn gwrthwynebu i ni ddefnyddio eich data personol, cysylltwch â ni.
  • Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.


Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau eraill i naill ai storio gwybodaeth bersonol neu i’n cynorthwyo â darparu gwasanaethau i chi. Byddwn hefyd efallai yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan rydym o’r farn bod rheswm da i wneud hynny, sy’n fwy pwysig na diogelu eich preifatrwydd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn canfod neu atal trosedd neu dwyll.

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â:

  • Gwasanaethau/adrannau eraill CBSC at ddibenion materion Gorfodi’r Cyngor lle bo angen.
  • Cyrff sy’n ymchwilio neu brosesu hawliadau.
  • Asiantaethau sector cyhoeddus e.e. yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Adran Gyllid a Thollau, awdurdodau lleol eraill a chwmnïau sector preifat megis asiantaethau gwirio credyd.
  • Cyrff sy’n gweithio i atal twyll a chefnogi mentrau twyll cenedlaethol

Cyfnod cadw neu’r meini prawf a ddefnyddir i bennu’r cyfnod cadw

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r cyfnodau cadw a nodir ym Mholisïau Cadw Data/Dogfennau'r Cyngor ar gyfer pob maes data a gasglwyd.

Ffynonellau'r data personol ac a ddaeth o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd

Mae gwybodaeth bersonol a gedwir gan y Tîm Asiantiaid Gorfodi yn bennaf yn dod gan y cwsmer ond gall hefyd gael ei darparu gan ffynonellau eraill ar sail unigol, adrannau mewnol y Cyngor, neu unrhyw drydydd parti arall pan fo eiddo wedi’i feddiannu/yn wag.

Lle bo darparu data personol yn rhan o ofynion neu rwymedigaethau statudol neu gontract a chanlyniadau posib' methu â darparu’r data personol

Mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu’r gwasanaethau hyn i chi a defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, felly canlyniad methu â darparu eich gwybodaeth bersonol yw na fyddwn yn gallu cydymffurfio â’n dyletswydd statudol.

Gwneud penderfyniadau awtomataidd, yn cynnwys proffilio a gwybodaeth am sut y gwneir penderfyniadau, yr arwyddocâd a’r canlyniadau

Bydd rhai o’r systemau y mae Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau CBSC yn eu defnyddio yn defnyddio’r data a ddarparwyd i wneud penderfyniadau awtomataidd. Mae gennych hawl i wrthod unrhyw benderfyniad a wneir yn awtomataidd a gofyn bod aelod o staff yn gwneud y penderfyniad.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ym mis Ebrill 2018.

Eich hawliau gwybodaeth

I weld hysbysiad preifatrwydd cyffredinol Conwy, ac i weld hysbysiad preifatrwydd cyffredinol Refeniw a Budd-daliadau ewch i www.conwy.gov.uk/diogeludata a www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd, gellir hefyd defnyddio’r safleoedd hyn i ganfod ein manylion cyswllt.

Caiff yr holl alwadau ffôn a dderbynnir ac a wneir drwy linellau'r Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau eu recordio i bwrpasau hyfforddiant a monitro. Bydd recordiadau o’r galwadau hyn yn cael eu cadw am 90 diwrnod.

end content