Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ
Oriau agor y dderbynfa:
Dydd Llun tan ddydd Iau: 9am tan 5pm
Dydd Gwener: 9am tan 4:45pm
Ar gau dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul a gwyliau banc
Cyrraedd Coed Pella ar y ffordd:
- Mae gwibffordd yr A55 ar yr arfordir yn cysylltu’n rhwydd gyda’r rhwydwaith traffordd (M56/M6) o ogledd-orllewin Lloegr. Am daeth prydferth o Ganolbarth Lloegr, teithiwch ar hyd yr A5 trwy’r Amwythig a Llangollen.
- Mae maes parcio aml-lawr i gefn Coed Pella gyda dwy fynedfa. Dylai pob ymwelydd gyrraedd maes parcio Coed Pella trwy fynedfa P1 oddi ar Ffordd Lansdowne a gyrru tuag at faes parcio’r llawr gwaelod (mynedfa gyhoeddus 1). Sylwch mae yna gyfyngiad uchder yn y maes parcio o 2.1 metr ar yr uchaf. Dylech fod yn ymwybodol o uchder eich cerbyd cyn mynd i mewn i’r maes parcio aml-lawr.
- Mae yna hefyd nifer o feysydd parcio talu ac arddangos ym Mae Colwyn a gall siopwyr yng Nghanolfan Siopa Bay View barcio am hyd at dair awr yn rhad ac am ddim
- Cod post i’w nodi yn y peiriant satnav: LL29 7AW.
Cyrraedd Coed Pella ar y bws:
- Mae nifer o wasanaethau bws lleol gyda chysylltiadau uniongyrchol â Bangor, Llandudno, Conwy, Llysfaen, Prestatyn a’r Rhyl yn mynd heibio Coed Pella, ac mae arosfannau bws ar gyfer teithio tua’r dwyrain a thua’r gorllewin tu allan i’r adeilad. Gellir cael gwybodaeth bellach am wasanaethau gan Traveline Cymru neu drwy ffonio 0800 464 0000.
Cyrraedd Coed Pella ar y trên:
- Mae nifer o wasanaethau trên uniongyrchol i Fae Colwyn. Mae Avanti West Coast, er enghraifft, yn gweithredu gwasanaeth uniongyrchol o Llundain Euston i Gaergybi, sy’n stopio ym Mae Colwyn. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu trenau uniongyrchol o’r gogledd a’r de orllewin ac yn cynnig cysylltiadau ar West Coast Main Line drwy Crewe a Warrington Bank Quay.
Cyfleusterau:
content
Fel rhan o strategaeth y Cyngor ar gyfer adfywio Bae Colwyn, rydym wedi penderfynu’n bwrpasol i beidio â chynnwys cantîn neu gaffi yn yr adeilad a byddem yn eich annog chi i gefnogi busnesau lleol gyda’ch masnach. Mae peiriannau gwerthu diodydd poeth ac oer ar gael yn y dderbynfa ynghyd â pheiriant gwerthu bwydydd iach. Ni ddylid bwyta yn yr ystafelloedd cyfarfod.
content
Mae nifer o doiledau merched, dynion ac anabl wedi eu lleoli ar draws drwy’r adeilad. Mae toiled / ystafell newid hygyrch wedi'i leoli ar y llawr gwaelod sy’n cynnwys teclyn codi.
content
Bydd darpariaeth cymorth cyntaf ar gael drwy’r Cymhorthwyr Gwybodaeth yn ardal y dderbynfa. Lleolir yr ystafell cymorth cyntaf ar y llawr gwaelod wrth ymyl ardal yr atriwm. Mae’r blwch cymorth cyntaf ar gael yn yr ystafell hon, ynghyd â gwely a seddi meddygol.
content
Profir y larwm tân wythnosol a bydd yn canu am gyfnod byr ac yna’n stopio. Cyhoeddir profion deg munud cyn eu
gweithredu. Os oes tân yn yr adeilad, mae’n rhaid i ymwelwyr fynd allan yn ddiogel, gyda staff, ac ymgynnull yng Ngerddi’r Frenhines, gerllaw.