Coed Pella, Conway Road, Colwyn Bay, LL29 7AZ
Oriau agor y dderbynfa:
Dydd Llun tan ddydd Iau: 9am tan 5pm
Dydd Gwener: 9am tan 4:45pm
Ar gau dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul a gwyliau banc
Mae holl wasanaethau’r Cyngor ar gael yng Nghoed Pella, neu gellir cael mynediad atynt trwy Goed Pella, naill ai’n bersonol neu dros y ffôn. Mae rhai gwasanaethau yn defnyddio system apwyntiadau felly edrychwch ar ein gwefan i gael manylion am y gwasanaeth sydd ei eisiau arnoch chi, i osgoi cael eich siomi.
Mae ein gwasanaethau eraill yn cynnwys:
- Ymholiadau cyffredinol a gaiff eu trin gan ein tîm Blaen Tŷ.
- Mae cyfrifiaduron cyhoeddus a gwasanaeth ffôn cyswllt uniongyrchol ar gael. Mae hyn yn golygu y gallwch gysylltu â gwasanaethau’r Cyngor heb gost i chi.
- Mae gwasanaeth galw heibio Cyngor ar Bopeth ar gael yn y dderbynfa rhwng 9:30am a 12:30pm o ddydd Mawrth i ddydd Gwener bob wythnos.
- Mae toiledau cyhoeddus ar gael, gan gynnwys toiled/ystafell newid hygyrch ar y llawr gwaelod ac mae teclyn codi yno hefyd.