Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020
Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau.
Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Arolwg Cyllideb 2026-2027
Summary (optional)
start grid
Rydym eisiau clywed pa wasanaethau sydd fwyaf pwysig i chi a’ch cymuned.
Fel pob Cyngor yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wynebu pwysau ariannol parhaus ac angen gwneud arbedion i bennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2026-27. Mae costau cynyddol nwyddau a gwasanaethau yn golygu ein bod ni’n dechrau gyda bwlch o £20.4 miliwn cyn rhoi unrhyw gyllid.
Rydym wedi ymrwymo i gydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau. Ein blaenoriaeth yw defnyddio pob punt mor effeithiol â phosibl i warchod y gwasanaethau sydd fwyaf pwysig i’n cymunedau. Er y gallai hyn olygu rhai newidiadau i sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu, byddwn yn gwneud popeth allwn ni i leihau’r effaith a rhoi’r newyddion diweddaraf i chi bob cam o’r ffordd.
Llenwi’r arolwg
Mae angen tua 10 munud i lenwi’r arolwg. Atebwch erbyn 23 Ionawr 2026. Mae’r arolwg hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais trwy e-bostio sgwrsysir@conwy.gov.uk.
Sut bydd eich data’n cael ei ddefnyddio
Bydd gwybodaeth a all eich adnabod chi, yn cael ei weld gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig. Bydd y wybodaeth yn cael ei gadw o ddyddiad y bydd yr arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y ffordd y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio yn: Hysbysiad Preifatrwydd: Gwella a Datblygu Corfforaethol.
end grid