Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Dweud eich dweud Ymgynghoriadau Ymgynghoriad Strategaeth Drafft Adnoddau a Gwastraff

Ymgynghoriad Strategaeth Drafft Adnoddau a Gwastraff


Summary (optional)
start grid

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Yn 2022, cyhoeddodd Conwy gynllun corfforaethol pum mlynedd o hyd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang. Nod y cynllun yw lleihau allyriadau carbon, addasu i newid hinsawdd a’i liniaru, a sicrhau effeithiau cadarnhaol ar yr hinsawdd. Yn rhan o’r ymdrech hon, mae Conwy’n canolbwyntio ar leihau gwastraff ac ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu mwy gyda Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gwneud cynnydd arbennig ac wedi bwrw iddi i gefnogi preswylwyr a busnesau i ailgylchu mwy o’u gwastraff a gwneud penderfyniadau doeth am leihau eu gwastraff, galluogi trwsio ac ailgylchu mwy.

Rydym ni bob amser yn edrych i’r dyfodol i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu bodloni anghenion ein preswylwyr, a gwneud gwelliannau, ond mae’n rhaid paratoi at yr heriau canlynol hefyd:

  • Argyfwng hinsawdd byd-eang a lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net
  • Cyrraedd targedau ailgylchu mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod trwy gynyddu ein cyfradd ailgylchu i 70%
  • Newidiadau polisi a fydd yn cefnogi ailgylchu ac ailddefnyddio mwy a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Taro cydbwysedd rhwng cyfyngiadau ar gyllidebau
  • Sicrhau bod yr isadeiledd gwastraff yn gallu ymdopi â chasglu mwy o wastraff ailgylchu a chyrraedd y targed carbon sero net mae Llywodraeth Cymru wedi’i osod erbyn 2050

Mae ein Strategaeth Adnoddau a Gwastraff 2026-2031 ddrafft wedi’i datblygu i ymateb i’r heriau hyn a cheisio dod o hyd i gyfleoedd. O fewn y strategaeth, rydym wedi nodi chwech o amcanion allweddol, sef:

  1. Lleihau gwastraff ac annog pobl i ailddefnyddio mwy
  2. Cynyddu cyfraddau ailgylchu
  3. Darparu gwasanaeth gwydn, effeithiol, sy’n cael ei redeg yn dda ar gyfer preswylwyr a busnesau yng Nghonwy
  4. Cefnogi uchelgeisiau datgarboneiddio’r Cyngor
  5. Paratoi ein gwasanaeth at y dyfodol, a’r isadeiledd sy’n ategu’r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu
  6. Cyfathrebu, ymgysylltu ac addysg

Rydym ni’n awyddus i glywed eich barn chi am flaenoriaethau ein strategaeth a fydd yn helpu i ffurfio’r ddogfen strategaeth derfynol.

Cyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, darllenwch Gopi Drafft y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff 2026-2031 (dogfen PDF).

Mae’r ddogfen hon yn darparu mwy o fanylion am gyd-destun y strategaeth a’r camau gweithredu rydym ni’n eu cynnig i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu, a darparu gwasanaeth sy’n addas at y dyfodol.

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 5 Hydref.

 

end grid