start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio i adleoli Depo adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ym Mhlas yn Dre, Llanrwst, i safle ger Meadow Vale, Ffordd Berthddu, Llanrwst.

Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio rhwng 18 Tachwedd a 30 Rhagfyr er mwyn dod i ddeall eich barn chi am gynigion y datblygiad.

Y sefyllfa bresennol

Mae gan y Cyngor ddepo ym Mhlas yn Dre, Llanrwst, ar hyn o bryd. Defnyddir y safle ar gyfer:

  • storio halen
  • storio deunyddiau ailgylchu dros dro
  • mannau storio diogel
  • cyfleusterau golchi cerbydau
  • man llenwi tanwydd
  • lle parcio ar gyfer cerbydau fflyd

Beth yw’r cynigion?

Byddai safle’r depo newydd arfaethedig yn cynnwys:

  • sied storio halen sy’n mesur 1,523 metr sgwâr
  • adeilad lles a chyfleusterau staff, gan gynnwys swyddfeydd
  • ardal ailgylchu dros dro
  • unedau storio diogel a mannau storio cyffredinol
  • cyfleusterau golchi cerbydau
  • man llenwi tanwydd
  • lle parcio ar gyfer 30 o gerbydau fflyd
  • pwll arafu a phwll bioamrywiaeth wlyb

Rydym yn cynnig creu mynedfa newydd o’r gilfan gerllaw ar yr A470 i’r safle. Byddai’r fynedfa hon yn gweithredu fel system unffordd, yn mynd i mewn o Meadow Vale ac allan drwy’r gilfan.

Ffensys palis fydd yn llunio ffin y safle, gyda nodweddion tirlunio’n cynnwys gwrychoedd, byndiau a chreu dau bwll dŵr. Bydd y coed presennol yn cael eu cadw.

Ar y cyfan, byddai’r safle’n cael ei ddefnyddio rhwng 7am a 4pm, ond gallai cerbydau graeanu fod angen ei ddefnyddio 24 awr y dydd yn y gaeaf. Mae’r Cyngor wrthi’n trafod gyda pherchnogion y tir, ond nid yw wedi cyrraedd cytundeb i’w brynu eto.

Beth am y safle presennol?

Byddai’r depo’n symud 1.4km o’r safle presennol, gan ryddhau safle Plas yn Dre i’w ailddatblygu yn y dyfodol. Gellid defnyddio safle Plas yn Dre mewn cynlluniau adfywio fel rhan o ddatblygiad strategol canol y dref, a gallai gynnig cyfleoedd a buddion economaidd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn ystyried ac yn dadansoddi’r holl adborth a gawn i’r ymgynghoriad hwn yn ofalus cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Dewisiadau hygyrch:

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, mewn print bras, ar ffurf hawdd ei ddeall, fel recordiad clywedol neu mewn braille. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn hefyd roi disgrifiad llafar o’r cynigion dros y ffôn.

Gall trigolion ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gydag un o’n swyddogion. Os nad oes swyddog ar gael, fe gymerwn ni eich manylion a threfnu bod rhywun yn eich ffonio’n ôl.

Gallwch hefyd gysylltu â ni i gael copi papur o’r ymgynghoriad. Bydd y lluniadau’n cael eu darparu mewn maint A3, oni fyddwch chi’n gofyn am fersiwn print mawr.

Tudalen nesaf: Dogfennau adroddiad ymgynghori cyn ymgeisio

end content