Dweud eich dweud am ddyfodol Gerddi’r Frenhines ym Mae Colwyn
Mae Gerddi’r Frenhines ym Mae Colwyn yn un o nifer o barciau ffurfiol yng Nghonwy a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn datblygu prosiect blaenllaw i ddangos sut y gellir addasu parciau Fictoraidd hanesyddol i fodloni heriau’r dyfodol, gan gadw eu gwerth o ran treftadaeth ar yr un pryd.
Sefydlwyd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mewn ymateb i ddatganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru yn 2019 a’r argyfwng natur yn 2021. Mae’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn gweithio ar greu mwy o le i natur a chefnogi bioamrywiaeth o fewn cymunedau lleol.
Amcanion y prosiect yw:
- Cynyddu bioamrywiaeth
- Creu parc sy’n fwy cynaliadwy, cynhwysol a deniadol
- Gwella cynefinoedd bywyd gwyllt
- Gwella gwydnwch rhag y newid yn yr hinsawdd
- Annog stiwardiaeth ac ymgysylltiad cymunedol
Digwyddiadau galw heibio:
- Dydd Gwener 6 Tachwedd, 9:30am tan 1pm: Gerddi'r Frenhines, Bae Colwyn
- Dydd Gwener 6 Tachwedd, 2pm tan 4:30pm: Llyfrgell Bae Colwyn, Woodland Road West, Bae Colwyn, LL29 7DH
- Dydd Sadwrn 7 Tachwedd, 9:30am tan 1pm: Canolfan Siopa Bay View, Sea View Road, Bae Colwyn, LL29 8DG
Fel rhan o’r prosiect, hoffai Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ddod i ddeall sut mae pobl leol yn defnyddio’r gerddi, a beth yr hoffen nhw ei weld yno yn y dyfodol. Bydd yr adborth yn helpu llunio’r cynigion ar gyfer y cynlluniau gwella.
Bydd y cynlluniau’n cael eu rhannu’n gyhoeddus a chynhelir ymgynghoriad arnyn nhw i wneud yn siŵr bod yr uwchgynllun terfynol yn adlewyrchu dymuniadau’r gymuned leol, yn ogystal ag yn darparu gwelliannau bioamrywiaeth a chefnogi rheolaeth hirdymor gynaliadwy.