Currys: O her recriwtio i 16 o recriwtiaid newydd mewn tair wythnos yn unig
Pan oedd Currys angen recriwtio staff i’w siop yn Llandudno, gofynnwyd i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy helpu i ddod â phobl leol a’r cyflogwr at ei gilydd – y canlyniad oedd 16 o recriwtiaid newydd mewn tair wythnos yn unig.
Currys yw’r cwmni mwyaf yn y DU sy’n gwerthu dyfeisiau electronig a pheiriannau cartref i gwsmeriaid, gyda thros 300 o siopau a mwy na 10,000 o weithwyr. Ar ôl cael ei enwi’n un o’r lleoedd gorau i weithio yn 2026 yn rhestr The Sunday Times, roedd y cwmni’n awyddus i gryfhau ei dîm yn siop Llandudno cyn y cyfnod prysur sydd i ddod.
Daeth Currys at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy am gymorth gyda’i ymgyrch recriwtio. Gan weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith, bu’r Canolbwynt yn gweithio’n agos gyda Diletta Fanni, Rheolwr Recriwtio Currys, a Jason Griffiths, Rheolwr Siop Currys Llandudno, i drefnu Diwrnod Agored Recriwtio pwrpasol.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng ngwesty St George yn Llandudno, ac roedd yn gyfle i bobl leol oedd yn chwilio am waith gael gwybod mwy am weithio i Currys, cwrdd â’r tîm a chlywed am yr opsiynau gyrfa oedd ar gael.
Rhoddodd tîm Currys gyflwyniad am y cwmni, ei werthoedd a’r hyn mae’n ei olygu i weithio iddo. Fe wnaethant egluro bod Currys yn fwy na gwerthu cynnyrch yn unig – mae’n ymwneud â helpu cwsmeriaid i gael y gorau o dechnoleg drwy gynnig cyngor arbenigol, cymorth a hyder.
Fe wnaeth y digwyddiad ddenu 53 o bobl leol oedd yn chwilio am swyddi, a chawsant gyfle i ddysgu mwy am y rhai sydd ar gael a’r hyn mae Currys yn chwilio amdano yn ei weithwyr. Cafodd y rhai oedd eisiau cymryd y cam nesaf eu gwahodd i fynd i’r siop yn Llandudno, cwrdd â’r tîm a threfnu cyfweliad.
Bu diddordeb mawr yn yr ymgyrch recriwtio, gyda mwy na 200 o geisiadau am y swyddi.
Ar ôl yr ymgyrch, cafodd 16 o unigolion llwyddiannus eu recriwtio o fewn tair wythnos yn unig. Rhoddodd y recriwtiaid newydd hwb gwerthfawr i lefelau staffio Currys cyn y cyfnod prysuraf, gan hefyd helpu’r siop i allu parhau i gynnig gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a gweithredu o ddydd i ddydd.
Dywedodd Diletta Fanni, Rheolwr Recriwtio Currys:
"Mae’r gefnogaeth gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi cael effaith uniongyrchol, fesuradwy ar lwyddiant ein hymgyrch recriwtio ni."
"Fe wnaeth blaengarwch, trefn a pharodrwydd Alice ein helpu i godi ymwybyddiaeth am Currys a’r cyfleoedd oedd ar gael, gan gynnwys ar y radio’n lleol. Roedd hi hefyd yn ganolog wrth drefnu a hyrwyddo ein diwrnod recriwtio, a daeth 53 o ymgeiswyr iddo."
"Fe wnaeth cyfanswm o dros 200 o bobl ymgeisio am y swyddi ac, o ganlyniad uniongyrchol i gydweithio, fe wnaethom ni lwyddo i recriwtio 16 o ymgeiswyr da iawn mewn dim ond tair wythnos."
"Mae proffesiynoldeb, gwaith cyfathrebu ac ymroddiad Alice i gefnogi ymgeiswyr a chyflogwyr wedi bod yn arbennig. Roedd ei chyfraniad hi’n ganolog i’r canlyniadau cadarnhaol rydyn ni wedi’u cyflawni gyda’n gilydd."
Looking to recruit?
Get in touch to see how we can support your next recruitment campaign.