Mae Cymru’n Gweithio yn rhoi cymorth i gyflogwyr a phobl sydd mewn perygl o golli eu swydd. Mae hyn yn cynnwys cyngor a hyfforddiant gyrfaoedd, adnabod ffynonellau cyllid posibl ar gyfer hyfforddiant, gwybodaeth am swyddi gwag a chymorth i lunio CV a llenwi ceisiadau am swyddi. Mae’r cymorth hwn ar gael i fusnesau o bob maint ac ar draws pob sector.
Os ydych yn gyflogwr ac yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd i ddiswyddo eich gweithwyr, mae cymorth ar gael: Cymorth colli swydd i gyflogwyr (Llywodraeth Cymru - Gyrfa Cymru)