Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cysylltu â Gwaith


Summary (optional)
start content

Rhaglen newydd ar draws y DU sy’n cefnogi pobl gyda chyflyrau iechyd, anableddau neu amgylchiadau bywyd cymhleth i ddod o hyd i waith.

Beth yw Cysylltu â Gwaith?

Cysylltu â Gwaith yw rhaglen newydd ledled y DU sy’n cael ei rhedeg gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy ar draws sir Conwy.

Mae’n helpu pobl sydd eisiau gweithio ond sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol oherwydd:

  • Cyflyrau iechyd
  • Anableddau
  • Niwrowahaniaeth
  • Anghenion iechyd meddwl
  • Rhwystrau bywyd cymhleth

Mae Cysylltu â Gwaith yn eich cefnogi chi gyda cefnogaeth am ddim wedi’i theilwra er mwyn eich helpu i symud at weithio:

  • Cymorth i ddatblygu sgiliau, hyder a chymhelliant
  • Cefnogaeth sy’n addas i’ch sefyllfa bob cam o’r ffordd ac ar eich cyflymder eich hun
  • Eich helpu i ganfod rolau sy’n gweddu i’ch sgiliau a’ch diddordebau, gyda chyflogwyr sy’n deall eich anghenion
  • Cefnogaeth i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau a dechrau gwaith
  • Cyswllt rheolaidd parhaus tra byddwch chi’n gweithio

Mae cefnogaeth ar gael i bobl sydd:

  • Yn ddiwaith, 16+ oed ac eisiau canfod cyflogaeth
  • Eisoes yn gweithio, ond mewn perygl o golli eu gwaith
  • Ddim ar unrhyw raglen arall a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd

Timau iechyd a chlinigol

Mae ein Harbenigwyr Cyflogaeth yn gweithio gyda thimau iechyd a chlinigol er mwyn nodi pobl a allai elwa o gefnogaeth gyda chyflogaeth. Mae hyn yn gwneud cyflogaeth yn rhan o daith iechyd, lles ac adferiad ehangach unigolyn.

Cefnogi cyflogwyr

Mae Cysylltu â Gwaith yn helpu busnesau i recriwtio a chadw gweithwyr gyda hyder, gan ddarparu:

  • Mynediad i ymgeiswyr brwdfrydig sy’n cael eu cefnogi
  • Paru swyddi sy’n seiliedig ar sgiliau, diddordebau a gallu ymgeisydd
  • Cefnogaeth i siapio swyddi sy’n gweithio i’r ymgeisydd a’r busnes
  • Cefnogaeth barhaus i helpu i weithwyr ffynnu, gan gynnwys hyfforddiant mewn swydd ac adolygiadau yn y gweithle

Mae hyn yn helpu busnesau i leihau risg wrth recriwtio ac arbed amser, gan eu cefnogi i feithrin timau cynhwysol, medrus a chynaliadwy.

Os hoffech siarad â’n tîm Cysylltu â Gwaith, anfonwch e-bost atom at ctw@conwy.gov.uk.

end content