Cipolwg o’r Effaith
- cefnogwyd 645 o breswylwyr Conwy
- cefnogwyd 238 i ddod o hyd i waith
- ymgysylltwyd â 750 o gyflogwyr lleol
Cymunedau am Waith a Mwy
Rhaglen Gyflogadwyedd wirfoddol wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth mentora dwys i helpu pobl ddi-waith gyda rhwystrau cymhleth dros 16 oed i fagu hyder a sgiliau, cefnogaeth gyda hyfforddiant, tynnu rhwystrau i gyflogaeth a dod o hyd i waith a’i gadw.
- 340 o Ddigwyddiadau Ymgysylltu â’r Gymuned
- 773 o Ymgysylltiadau â’r Gymuned Leol
- 389 o Gofrestriadau i Raglenni
- 168 o Ganlyniadau Swyddi
Grant Cymorth Tai
Mentor Cyflogaeth Digartref dynodedig sy’n gweithio o fewn y Tîm Atal Digartrefedd i gefnogi pobl sydd mewn perygl o, neu’n profi digartrefedd, i’w helpu i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.
- 92 o ymgysylltiadau
- 72 o bobl wedi’u cefnogi
- 14 o Ganlyniadau Swyddi
Ymgysylltu ag Ieuenctid
Prosiect sy’n canolbwyntio ar helpu a chefnogi pobl ifanc 16 i 19 oed i ddatblygu sgiliau am oes gan ddarparu llwybr amlwg at gyflogaeth:
Grymuso: Sesiynau galw heibio i ennill sgiliau bywyd
Symud Ymlaen: paratoi ar gyfer gwaith neu hyfforddiant
TYFU: hyfforddiant achrededig a thystysgrifau penodol i’r sector
- Ymgysylltwyd â/ag 167 o bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed
- Atgyfeiriwyd 36 o bobl at raglenni
- 92 o bobl wedi cwblhau cyrsiau
Hyder yn Dy Hun
Rhaglen sy’n canolbwyntio ar leihau arwahanrwydd cymdeithasol; datblygu gwytnwch; cynyddu hyder/hunan-barch; datblygu sgiliau meddal, ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd gan wella iechyd corfforol a meddyliol.
- 64 o ymgysylltiadau
- Atgyfeiriwyd 22 o bobl at raglenni
- 47 o bobl wedi cwblhau cyrsiau
Prosiect ACE Crest
Rhaglen a gynhelir mewn partneriaeth â Crest sy’n cynnig lleoliadau 12 wythnos gyda thâl ar draws ystod o sectorau, yn cynnwys manwerthu, gyrru ac ailwampio. Yn ogystal â phrofiad gwaith, bydd cyfranogwyr yn cael cefnogaeth a hyfforddiant un i un ac mewn grŵp ar gyflogadwyedd a chefnogaeth i chwilio am swyddi a hyfforddiant.
- 28 o leoliadau gwaith â chyflog
- 16 o geisiadau am swyddi
Ffeiriau Swyddi
Ffeiriau Swyddi a drefnir mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau
- 6 o Ffeiriau Swyddi
- 608 o geiswyr swyddi’n bresennol
Digwyddiadau Recriwtio Unigryw
Digwyddiadau recriwtio wedi’u targedu a’u teilwra i anghenion y cyflogwr
- 3 o ddigwyddiadau
- 84 o geiswyr swyddi’n bresennol
- 32 o gyfweliadau
- 22 o gynigion swyddi
Dysgu Oedolion yn y Gymuned
- 27 o Gyrsiau Hyfforddiant ar gyfer pobl 19+ oed
- 165 yn bresennol
- 402 Sesiwn
Llwybrau at Gyflogaeth
- 23 o gyrsiau hyfforddi
- 149 yn bresennol
- 368 gymwysterau wedi’u hennill
- Atgyfeiriwyd 26 o bobl at raglenni
- 80 o Ganlyniadau Swyddi
Gwirfoddoli
Partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon
- 11 ar y rhaglen wirfoddoli
Digwyddiad Rhwydweithio Busnes Blynyddol
- 73 o fusnesau yn bresennol
Siaradwyr: GLLM, RCS Cymru, Porth Sgiliau GC, Cysylltu â Gwaith a’r Coleg Digidol