
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n gweithredu’r rhaglen ganlynol gan Lywodraeth Cymru:
Cymunedau am Waith a Mwy. Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn Rhaglen Gyflogadwyedd wirfoddol wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi’n ddi-waith neu’n wynebu diswyddiad rydym yn darparu cymorth mentora dwys i gynorthwyo pobl dros 16 oed i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau ynghyd â dod o hyd i waith cyflogedig, a'i gadw.

Cysylltu â Gwaith
Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen wirfoddol sy’n helpu pobl i ddod o hyd i waith. Mae’n rhaglen ar gyfer pobl sydd allan o waith oherwydd anabledd, problemau iechyd neu heriau eraill yn eu bywydau. Mae’r rhaglen yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i helpu mwy o bobl i gael gwaith a lleihau diweithdra cudd ledled Cymru.
Mae’r rhaglen yn helpu pobl i ddod o hyd i’r swydd gywir a’i chadw am amser hir. Mae hefyd yn helpu pobl sydd eisoes mewn swydd ond a allai ei cholli. Rhoddir cefnogaeth i weithwyr a chyflogwyr i helpu pobl i aros mewn gwaith.

The Hub has been successful in securing funding from the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund to run the following programmes:
Mae’r Canolbwynt yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithfa Crest i gynnal y Rhaglen Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth – rhaglen 12 wythnos gyda thâl ar draws ystod o sectorau, yn cynnwys manwerthu, gyrru ac ailwampio. Yn ogystal â’r profiad gwaith bydd cyfranogwyr yn cael cefnogaeth a hyfforddiant un i un ac mewn grŵp ar gyflogadwyedd a chwilio am swyddi.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar leihau ynysiad cymdeithasol; datblygu gwytnwch; cynyddu hyder/hunan-barch; datblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd gan wella iechyd corfforol a meddyliol.
Mae’r prosiect hwn yn ehangu ar waith llwyddiannus mae’r Canolbwynt wedi’i wneud gyda phobl ifanc 16 i 19 oed, sydd yn canolbwyntio ar helpu a chefnogi’r grŵp oedran hwn i ddatblygu sgiliau am oes gan ddarparu llwybr clir at waith cyflogedig.
Mae Canolbwynt wedi bod yn llwyddiannus mewn cais am gyllid drwy Grant Cymorth Tai Conwy i’w ddefnyddio i dreialu Mentor Cyflogaeth dynodedig i Bobl Ddigartref. Mae’r Mentor yn cryfhau ffocws y Canolbwynt i gefnogi pobl ddi-waith gydag ystod o faterion sy'n ymwneud â thai
Amserlen o lwybrau a chyrsiau hyfforddi sy’n cynnig cyfuniad o hyfforddiant ar sgiliau meddal a chyflogadwyedd, cymwysterau ardystiedig yn seiliedig ar y sector a phrofiad gwaith ymarferol, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi ad-hoc sydd o fewn anghenion datblygu’r unigolyn.

Mae’r Canolbwynt hefyd yn hyrwyddo ac yn gweithio gyda’r cynllun Cynnydd sydd wedi’i ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Conwy.
Mae'r rhaglen Cynnydd hon ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant, ac er ei bod yn debyg i raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, y nod yw gweithio gyda'r bobl ifanc hynny sydd anoddaf i'w cyrraedd a darparu'r cyngor, y gofal a'r gefnogaeth orau bosibl fel y gallant greu dyfodol gwell beth bynnag y maent yn ei wynebu.