Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hwb Cyflogaeth Conwy - Mwy o wybodaeth


Summary (optional)
Canfod beth sy'n gweithio i chi
start content

Cofrestrwch nawr i dderbyn cefnogaeth am ddim gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy



Y ddolen uchod yw ein ffurflen gysylltu. Os byddwch angen rhannu gwybodaeth sensitif, ffoniwch ni ar 01492 575578.


Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ‘siop bob peth’ dan arweiniad y gymuned ar gyfer cyflogadwyedd yng Nghonwy.

Os ydych chi’n ddi-waith, rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i waith sy’n addas i chi drwy gynnig:

  • Ymgynghorwyr a mentoriaid cyflogaeth penodol sy’n cynnig cyngor am waith, swyddi a budd-daliadau
  • Mentora personol un-i-un, wedi’i addasu i’r unigolyn
  • Cyrsiau am ddim gan hyfforddwyr proffesiynol i feithrin sgiliau
  • Cymorth i ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • Cefnogaeth ariannol i oresgyn rhwystrau rhag hyfforddiant a gwaith:
    Benthyg cyfrifiaduron Chromebook a donglau wifi, costau teithio, dogfennau adnabod
  • Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr:
    digwyddiadau, ymgyrchoedd recriwtio, cyfleoedd gwaith, lleoliadau gwaith a chyrsiau ar lwybrau gyrfa
  • Atgyfeirio at asiantaethau neu bartneriaid eraill lle bo hynny’n briodol.

Fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu chi ac mae gennym fynediad at rwydwaith o gyflogwyr sydd eisiau recriwtio ar bob lefel.

Angen cymorth gennym?

Rhaglenni Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n gweithredu’r rhaglenni canlynol ar ran Llywodraeth Cymru:

Cymunedau am Waith a Mwy

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gyflogadwyedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth mentora dwys i helpu pobl i fagu hyder a sgiliau a dod o hyd i waith a’i gadw

Gwarant i Bobl Ifanc

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn rhaglen o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi’i hariannu’n rhannol drwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy. Mae’n rhaglen uchelgeisiol sy’n helpu i sicrhau nad yw Cymru yn colli cenhedlaeth yn sgil pandemig COVID-19. Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan y Warant i Bobl Ifanc i helpu a chefnogi pobl ifanc 16-24 oed i gael gwaith a/neu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau gydol oes.

Prosiect Cynnydd

Mae’r Canolbwynt hefyd yn hyrwyddo a gweithio â’r cynllun Cynnydd sydd wedi’i ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Conwy. Rhaglen wirfoddol yw hon ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd mewn perygl o fod ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant, ac er ei bod yn debyg i raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, y nod yw gweithio â’r bobl ifanc hynny sydd anoddaf eu cyrraedd a darparu’r cyngor, gofal a chymorth gorau posib er mwyn iddynt greu gwell dyfodol beth bynnag y maent yn ei wynebu.

CfW-footer-updated030423

end content