Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cynnig cymorth i bobl sy’n byw yng Nghonwy gyda chyngor, arweiniad a hyfforddiant wrth iddyn nhw chwilio am waith.
Gall ein cynghorwyr ymroddedig eich helpu gyda:
- Cynigion gwaith
- Cyngor am swyddi a budd-daliadau
- Gwasanaeth mentora i fagu eich hyder a datblygu eich sgiliau
- Hyfforddiant am ddim
- Cymorth i ysgrifennu eich CV ac i lenwi ffurflenni cais
- Profiad gwaith perthnasol
- Cyfleoedd gwirfoddoli i’ch paratoi chi ar gyfer gwaith
- Paratoi ar gyfer cyfweliadau
- Rhoi benthyg dyfeisiau a donglau Wi-Fi tra byddwch chi’n chwilio ac yn paratoi am waith
- Costau teithio i fynd i gyfweliadau
- Paratoi eich dogfennau adnabod
- Cymorth gyda gofal plant tra byddwch chi’n cael cyfweliad?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni