Rydym yn frwd dros gynnydd, a byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni eich nodau. Fe wnawn ni hyn drwy amrywiaeth o gyfleoedd a restrir yn Llyfryn Academi Dysgu Conwy. Rydym yn cefnogi cymwysterau academaidd a phroffesiynol lle bo’n briodol.
Gall y cyfleoedd datblygu hefyd fod ar ffurf digwyddiadau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, neu drwy ddysgu ar-lein. Cynigir cyfleoedd i chi loywi eich hyfforddiant yn ogystal â chyfleoedd dysgu newydd.
Rydym yn annog ein staff i dreulio amser yn diweddaru eu setiau sgiliau er mwyn eu cadw’n gyfredol ac yn briodol.
Rydym eisiau i chi fod yn falch o weithio i Gonwy, a charu’r hyn rydych chi’n ei wneud. Ein nod yw eich helpu chi a buddsoddi ynoch chi, er mwyn i chi gael y mwyaf o’ch diwrnod gwaith a chyfrannu at lwyddiant Conwy.
Rydym yn ymdrechu i fod yn gyflogwr delfrydol drwy ddarparu ystod o fuddion ar gyfer ein gweithwyr – dim ond un ohonyn nhw yw mynediad at ddysgu.
Mae ein Llyfryn Academi Dysgu cynhwysfawr yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Mae’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol, sy'n eich helpu chi i weld lle mae'r hyn rydych chi'n ei ddysgu yn cyfrannu tuag at gyflawni ein gweledigaeth a’n gwerthoedd.
Caiff hyfforddiant a datblygiad staff ei feithrin o’r diwrnod cyntaf ac mae’n digwydd yn barhaus.
Canfod Lleoliadau Gwaith
Mae gennym ni ystod eang o leoliadau gwaith di-dâl mewn nifer o’n meysydd gwasanaeth. Mae’r rhain ar gael i bobl o bob oed sy’n chwilio am brofiad gwaith.
Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, credwn ei bod yn bwysig ymgysylltu a helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau, a allai arwain at gyflogaeth gyda ni yn y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu lleoliadau gwaith ymarferol a chynnig ystod eang o weithgareddau’n seiliedig ar waith sy’n ystyrlon ac yn rhoi boddhad.
Mae sgiliau cyflogadwyedd fel cyfathrebu, datrys problemau a gweithio mewn tîm bob amser yn fuddiol.
Mae modd gwneud cais am leoliad profiad gwaith mewn maes sydd o ddiddordeb i chi ac fe wnawn ni'n gorau i’ch helpu.
Bydd cwblhau lleoliad gwaith gyda ni yn rhoi’r cyfle i chi dreulio amser mewn rôl y mae gennych chi ddiddordeb ynddi a dod i ddeall y sgiliau sydd eu hangen.
Os nad ydych chi'n siŵr pa wasanaethau rydym ni'n eu darparu na pha swyddi amrywiol sydd gennym ni ledled y sefydliad, ewch i gael golwg ar ein gwefan.
Gwneud cais am leoliad profiad gwaith gyda Chonwy
Cysylltwch â ni
E-bost: hyfforddiant@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576322