Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Croeso


Summary (optional)

Pennaeth Cyllid a Dirprwy Swyddog a151, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £77,153 - £88,545

Parhaol · Llawn Amser

Lleoliad: Hybrid/ Swyddfeydd y Cyngor, Coed Pella, Bae Colwyn

Cyfeirnod y Swydd: REQ007307

start content

Pennaeth Cyllid a Dirprwy Swyddog a151

Dyma gyfle prin i gamu mewn i swydd arweinyddiaeth ariannol ddylanwadol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn cyfnod o gyfleoedd a heriau sylweddol.

Fel Pennaeth Cyllid a Dirprwy Swyddog Adran 151, bydd gennych rôl ganolog i’w chwarae wrth lywio strategaeth ariannol y Cyngor, dylanwadu ar benderfyniadau mawr ar y lefel uchaf, a helpu i ddelio â’r pwysau ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol tra’n annog trawsnewid a darparu gwasanaethau mewn modd cynaliadwy.

Fel pob Awdurdod Lleol, rydym ni’n gweithredu mewn amgylchedd ariannol cymhleth, gyda galw cynyddol, adnoddau cyfyngedig a’r angen i drawsnewid sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Yng Nghonwy, nid rheoli’r her hon yw ein hunig ddyhead, ond yn hytrach i ailsiapio’r sefydliad er mwyn sicrhau gwytnwch hirdymor a chanlyniadau gwell i’n cymunedau.

Byddwch yn cyfrannu ar y lefel uchaf drwy eich rôl o fewn yr Uwch Dîm Rheoli, yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau’n wydn yn ariannol, yn flaengar ac mewn sefyllfa dda i gyflawni ei flaenoriaethau.


 

Ynglŷn â’r swydd

Fel Pennaeth Cyllid a Dirprwy Swyddog a151, byddwch yn arwain ac yn rheoli Gwasanaethau Ariannol Corfforaethol y Cyngor, yn sicrhau bod gwasanaethau ariannol o safon uchel a chyngor strategol yn cael ei ddarparu ar draws y sefydliad i Aelodau, ac Uwch Swyddogion, gan gefnogi proses wneud penderfyniadau effeithiol a chyfreithlon.

Byddwch yn goruchwylio portffolio eang ac amrywiol gan gynnwys Cyfrifyddu, Credydwyr, Cyflogau, Incwm a Chysoni, Trethiant Lleol a’r Gwasanaeth Budd-daliadau Tai ac Asesu.

Rhan ganolog o’ch swydd fydd:

  • Arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaeth ariannol a chynllunio tymor canolig y Cyngor
  • Cefnogi Penaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod gwasanaethau yn ariannol gynaliadwy ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol
  • Annog perfformiad, effeithlonrwydd a gwelliant parhaus ar draws gwasanaethau, defnyddio data a mewnwelediad i ddylanwadu ar benderfyniadau
  • Meithrin perthnasoedd gwaith cryf ar draws y sefydliad a gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i wneud y mwyaf o adnoddau a chyflawni canlyniadau ar y cyd


Byddwch yn gweithredu fel Dirprwy Swyddog Adran 151, yn gweithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Strategol Cyllid ac Adnoddau ac yn chwarae rôl bwysig mewn arweinyddiaeth ariannol strategol.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfleoedd sylweddol a chyfle i ddatblygu i’r rhai sy’n dymuno cael swydd yn y dyfodol fel Swyddog Adran 151. Byddwch yn arwain gweithlu amrywiol, yn creu diwylliant cynhwysol sy’n perfformio’n dda, lle mae arloesedd, cydweithio a datblygiad proffesiynol yn cael eu hannog.

Byddwch yn gyfrifol am osod disgwyliadau clir a rhannu cyd atebolrwydd am sefydlu arferion cynhwysol ar bob lefel, gan fodelu ymddygiad ac iaith i greu amodau lle mae pob cydweithiwr a chwsmer yn profi tegwch, urddas a synnwyr gwirioneddol o berthyn, a lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn gallu bod yn driw iddynt eu hunain yn y gwaith.

 


 

Amdanoch Chi

Rydym ni’n chwilio am arweinydd ariannol strategol a phrofiadol all weithio’n hyderus mewn amgylchedd cymhleth, gwleidyddol lle mae newidiadau’n digwydd yn gyflym.

Fe fyddwch chi’n Gyfrifydd cymwys (CCAB) gyda phrofiad helaeth o ddarparu arweinyddiaeth ariannol a dylanwad sefydliadol o fewn llywodraeth leol neu sefydliad cymhleth tebyg.

Fe fydd gennych:

  • Brofiad o arwain strategaeth ariannol, cynllunio a llywodraethu
  • Y gallu i ddylanwadu a herio’n adeiladol ar lefel uwch, yn cynnwys Aelodau
  • Ymwybyddiaeth wleidyddol gref a barn broffesiynol gadarn
  • Y gallu i drosi gwybodaeth ariannol gymhleth mewn i wybodaeth glir, ymarferol i gefnogi penderfyniadau
  • Dull cadarn y gellir ei addasu, gyda’r hyder i weithio mewn swydd heriol sydd â phroffil uchel


Yn fwy na dim, eich ysgogiad fydd gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sicrhau gwerth am arian, cefnogi newid sefydliadol a gwella canlyniadau i breswylwyr.


 

Amdanom Ni

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awdurdod blaengar sydd ag uchelgais clir: i ddarparu gwasanaethau effeithiol, arloesol a chynaliadwy sydd yn gwella canlyniadau i’n preswylwyr ac ymwelwyr.

Mae Conwy yn lle eithriadol i fyw a gweithio, gan gynnig cyfuniad unigryw o arfordir hardd, safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, bywyd diwylliannol bywiog a chyfleoedd adfywio enfawr.

Rydym ni’n cyflwyno rhaglenni uchelgeisiol ochr yn ochr â ffocws parhaus ar wytnwch ariannol a thrawsnewid.

Rydym ni’n falch o’n diwylliant sefydliadol cryf, sy’n cael ei ategu gan ein gwerthoedd o ofalu, tegwch, arloesedd a gwaith tîm.


 

Yr hyn yr ydym ni’n ei gynnig:

Rydym ni’n cynnig swydd arweinyddiaeth strategol mewn sefydliad cefnogol ac uchelgeisiol, ynghyd â:

  • Swydd sydd â phroffil uchel a dylanwad ar draws y Cyngor cyfan
  • Uwch Dîm Arweinyddiaeth cefnogol a phrofiadol
  • Cyfle i siapio strategaeth ariannol mewn awdurdod blaengar
  • Cyfleoedd sylweddol a chyfle i ddatblygu fel Dirprwy Swyddog Adran 151
  • Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid
  • Buddsoddiad i ddatblygu fel arweinydd ac yn eich gyrfa
  • Diwylliant cryf o gydweithio sy’n canolbwyntio ar wella, arloesedd, a chyflawni


Rydym yn awdurdod dwyieithog sy’n eithriadol o falch o’n treftadaeth Gymreig. Rydym, ni’n darparu cefnogaeth ardderchog gyda’r iaith Gymraeg, yn cynnwys gwasanaeth cyfieithu a chyfleoedd i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.


 

Y Gymraeg

Er bod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, byddai parodrwydd i ddysgu ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn fanteisiol.

Canllawiau: Canllawiau Sgiliau’r Gymraeg – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy


 

Rhagor o Wybodaeth

I gael pecyn ymgeisio manylach, ewch i:
https://www.conwy.gov.uk/cy/Council/Jobs-and-Careers/Recruitment/Head-of-Finance-Rev-Bens-Deputy-s151-Officer/Recruitment-Pack.aspx

Dyddiad Cau: 30 Gorffennaf 2026

Proses Asesu:

  • Asesiad ar-lein (ymgeiswyr i ddewis amser): 5 – 7 Awst 2026
  • Cwrdd â’r Tîm Arwain Strategol: 12 Awst 2026
  • Cyfweliad â’r Uwch Bwyllgor Cyflogaeth: 13 Awst 2026

 


 

Crynodeb

Os ydych chi’n chwilio am swydd lle gallwch chi ddylanwadau ar benderfyniadau mawr, siapio strategaeth ariannol a helpu i arwain Cyngor blaengar trwy gyfnod o newid, fe fyddem yn croesawu eich cais.


 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content