Mae Conwy yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Rydym ni’n cydnabod manteision gweithlu amrywiol ac yr ydym ni eisiau i bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â sir Conwy gael eu croesawu a theimlo eu bod nhw’n cael eu derbyn a’u bod nhw’n perthyn.
Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Gall pobl anabl wneud cais ar wahanol ffurfiau. Cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig i gynorthwyo gyda’ch cais.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais er mwyn cael eu hystyried. Ni dderbynnir CV yn unig. Gallwch gyflwyno CV gyda’ch ffurflen gais wedi’i llenwi’n gyflawn. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt yn cael eu cynnwys.
- Gwnewch yn siŵr bod pob bwlch mewn hanes cyflogaeth ac addysg yn cael ei egluro’n llawn ar eich cais/CV; efallai byddwn yn gwirio’r wybodaeth yn ystod y broses recriwtio
- Rhowch fanylion dau ganolwr. Sylwch byddwn ond yn mynd at ganolwyr os bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad a dim ond gyda’ch caniatâd chi. Nodwch yn glir os allwn ni fynd at bob un canolwr cyn y dyddiad dewis
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’r afael â’r gofynion allweddol a nodir yn y manylion am yr unigolyn
- Llenwch y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal pan fyddwch yn uwchlwytho eich manylion. Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein holl swyddi yn hygyrch i bob aelod o’r gymuned ac yn defnyddio’r data i fonitro ein cynnydd wrth wneud hyn
- Cyflwynwch eich cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol erbyn y dyddiad cau
- Ar ôl y dyddiad cau, bydd aelod o’r Gwasanaeth AD yn cysylltu â chi maes o law i ddiweddaru statws eich cais
- Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau technegol wrth lenwi’r ffurflen gais ar-lein, cysylltwch â cefnogaethsystemad@conwy.gov.uk / 01492 576129.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i Safonau’r Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.