Annwyl Ddarpar Ymgeisydd,
Diolch am fynegi diddordeb yn y swydd wag yn ein uwch-dîm rheoli. Wrth i ddeiliad y swydd baratoi i ymddeol, rydym yn chwilio am ymgeiswyr i’r swydd Pennaeth Arloesi a Thrawsnewid. Dyma gyfle ardderchog i fod ar flaen y gad wrth gyflawni dyheadau strategol y Cyngor i arloesi a thrawsnewid ar adeg pan mae llywodraeth leol yn dal i wynebu heriau mawr.
Rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth sy’n barod i gydweithio wrth sbarduno newid yn y sefydliad, cefnogi gwasanaethau i foderneiddio a hyrwyddo ffyrdd o weithio sy’n canolbwyntio ar y cwsmeriaid ac wedi’u hwyluso gan dechnoleg ddigidol. Bydd gennych brofiad o gyflawni rhaglenni trawsnewid mawr, dylanwadu ar newid diwylliant a defnyddio technoleg a data, ac yn medru dangos tystiolaeth o’r newidiadau a wnaethoch i wella’r canlyniadau i breswylwyr a chryfhau darpariaeth gwasanaethau.
Mae’n hanfodol ail-ffurfio’r ffordd y darperir gwasanaethau’r Cyngor er mwyn bodloni anghenion ein cymunedau’n awr ac yn y dyfodol. Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig wrth arwain ein rhaglen drawsnewid, gan weithio’n agos â Phenaethiaid Gwasanaethau eraill i adlunio a moderneiddio gwasanaethau a sicrhau y cedwir trosolwg strategol graff ar yr holl waith newid gydol y sefydliad.
Fe gewch gefnogaeth gan dîm galluog sy’n arwain ein Gwasanaeth TG a Thrawsnewid Digidol a’r Tîm Moderneiddio Corfforaethol, gan sicrhau fod gan y Cyngor isadeiledd digidol sicr a chydnerth sy’n barod am y dyfodol ac yn hwyluso profiadau o ansawdd uchel i gwsmeriaid.
Bydd eich cylch gwaith yn cynnwys datblygu’r Strategaeth TG Gorfforaethol, bod yn effro i’r datblygiadau technolegol diweddaraf sydd ar y gorwel, cefnogi gweithrediad ein Rhaglen Wytnwch a sicrhau y gall pobl gael mynediad rhwydd at wasanaethau mewn ffyrdd sy’n gyson ac yn bodloni eu hanghenion. Fel uwch-arweinydd, bydd disgwyl ichi osod esiampl wrth arwain mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol a chanolbwyntio ar ganlyniadau, gan helpu i wreiddio diwylliant o wella’n barhaus ac arloesi a hybu tegwch a chynhwysiant gydol yr Awdurdod.
Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr ardderchog sydd â diwylliant cryf o weithio fel tîm. Ein gwerthoedd - gofalu am yr hyn a wnawn ni, bod yn deg, arloesol a gweithio’n wych mewn tîm – sy’n llywio popeth rydym yn ei wneud. Rydym yn dal ati i foderneiddio, chwilio am gyfleoedd newydd ac ymateb yn gadarnhaol i’r heriau rydym yn eu hwynebu. Mae ein tîm o arweinwyr profiadol, rheolaeth ariannol gref, trefniadau llywodraethu uchel eu parch a gwasanaethau cefnogi rhagorol o fantais fawr inni wrth gymryd y cam nesaf yn ein taith drawsnewid.
Rydym yn awdurdod dwyieithog, sydd â balchder aruthrol yn ein treftadaeth Gymreig a darpariaeth ardderchog gan y gwasanaethau cyfieithu a dysgu Cymraeg. Rydym yn chwilio am uwch-reolwr a fydd yn ffynnu mewn diwylliant sy’n canolbwyntio ar gynhwysiant, ysbrydoli timau ac ymdrechu i gyflawni newid ystyrlon sy’n rhoi pobl yn gyntaf.
Hyderwn eich bod mor frwdfrydig â ninnau am y cyfle hwn ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Yn gywir

Y Cynghorydd Julie Fallon
Arweinydd

Rhun ap Gareth
Prif Weithredwr