Datganiad llywodraethu blynyddol
Beth yw Llywodraethu?
Llywodraethu Corfforaethol yw'r system sy'n cael ei defnyddio i gyfarwyddo a rheoli sefydliad.
Bydd strwythur llywodraethu da yn cynnwys, fel isafswm:
- Safonau llywodraethu clir a fydd yn llywodraethu sefydliad
- Rolau a chyfrifoldebau llywodraethu
- proses i fesur perfformiad sefydliad yn ôl ei safonau llywodraethu.
Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i sefydliad feddu ar sail gadarn o lywodraethu da a rheolaeth ariannol gadarn.
Trefniadau Llywodraethu Corfforaethol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i sicrhau bod egwyddorion llywodraethu ac arferion rheoli da yn cael eu mabwysiadu ym mhob gweithgaredd busnes i sicrhau hyder y cyhoedd ynddo.
1) Y Cod Llywodraethu Lleol
Mae’r Cod Llywodraethu Lleol yn darparu datganiad cyhoeddus sy’n nodi’r ffordd y bydd y Cyngor yn cyflawni ac yn dangos yr ymrwymiad hwnnw.
2) Y Fframwaith Llywodraethu
Yn sail i'r Cod Lleol mae Fframwaith Llywodraethu sy’n cynnwys y polisïau, gweithdrefnau, ymddygiad a’r gwerthoedd sy’n rheoli ac yn llywodraethu’r Cyngor.
3) Y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn darparu sicrwydd o ran trefniadau Llywodraethu’r Cyngor, ynghyd â nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt a’u gwella yn y dyfodol. Pwrpas y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw adrodd yn gyhoeddus ar y graddau y mae’r Cyngor yn cydymffurfio â’i god llywodraethu ei hun. Mae’n nodi’r meysydd hynny sydd angen eu gwella yn ôl yr hunanasesiad.
Dylid darllen y datganiad hwn ynghyd â'r trefniadau atebolrwydd rheoli perfformiad fel mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi.
Mae fersiynau hŷn o'r adroddiadau sydd ar y dudalen hon i'w cael ar gais gan tgdc@conwy.gov.uk.