Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Perfformiad


Summary (optional)
Yma gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut mae pethau’n mynd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gallwch chi weld ein hadroddiadau perfformiad, hunanasesiadau, a diweddariadau llywodraethu i gyd mewn un lle, fel y gallwch chi weld yr hyn sy’n mynd yn dda a lle’r ydym ni’n gweithio i wella.
start content

Canllaw i Berfformiad

Er mwyn deall sut mae’r Cyngor yn cynllunio ei waith a rheoli perfformiad, darllenwch ein canllaw i Reoli Perfformiad. Mae’n adnodd i unrhyw un sy’n gweithio yn y Cyngor, yn ogystal â chanllaw i’r rhai sy’n derbyn ein gwasanaethau.

Canllaw Rheoli Perfformiad (PDF document)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad o Berfformiad

Fel rhan o'n gwelliant parhaus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad (Adroddiad Blynyddol) bob blwyddyn i esbonio beth mae wedi'i wneud fel gwelliannau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a lle rydym angen gwneud mwy o welliannau. Mae hyn yn ofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Peth arall sy'n ofynnol arnom i ni o dan y Ddeddf hon yw darparu hunan-asesiad o’n perfformiad. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael ei chasglu i ddangos ein perfformiad yn erbyn prosesau llywodraethu a rheoli perfformiad mewnol. Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei chasglu a’i hadolygu (gan gynnwys y categorïau sy'n cael eu defnyddio i werthuso ein perfformiad) ar gael ar gais.


Mae modd cael copïau o'r adroddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg, mewn Braille, print bras, CD ac mewn ieithoedd eraill. Ffoniwch 01492 576508 i drefnu.

Mae fersiynau hŷn o'r adroddiadau i'w cael ar gais drwy e-bost at cidt@conwy.gov.uk.

Asesiad Perfformiad Panel

Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae’n rhaid i’r Cyngor drefnu asesiad annibynnol unwaith yn ystod pob tymor etholiadol, er mwyn adolygu pa mor dda y mae'n bodloni ei ofynion perfformiad.

Mae'r Asesiadau Perfformiad Panel hyn yn rhoi syniad allanol a diduedd o’n perfformiad, ein trefniadau llywodraethu a'n hymagwedd o ran sicrhau gwelliant parhaus.

Mae'r panel yn adolygu tystiolaeth, yn cydnabod yr hyn sy'n gweithio'n dda ac yn nodi meysydd lle gallwn wella, gan ein helpu i barhau i fod yn agored ac yn atebol ac i ganolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i breswylwyr.

Gweler ein hadroddiad Asesiad Perfformiad Panel diweddaraf (dogfen PDF), yn ogystal â’n cynllun gweithredu, sy’n nodi sut y byddwn yn ymateb i argymhellion y panel.

Rheoleiddwyr allanol


Gallwch ddarllen am ein perfformiad mewn adroddiadau a gyhoeddwyd gan ein prif reoleiddwyr allanol:

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content