Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Conwy Gynhwysol 2024-2028


Summary (optional)
start content

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys amcanion cydraddoldeb strategol statudol ar gyfer 2024-2028.

Nod ein cynllun newydd yw canolbwyntio ar bobl a’u profiadau mewn bywyd, yn hytrach na’n rhwymedigaeth i gydymffurfio â deddfwriaeth.  Rydym ni wedi enwi’r cynllun hwn yn ‘Conwy Gynhwysol’ oherwydd mai dyna yw ein nod - waeth beth yw eich cefndir gallwch fyw, gweithio ac ymweld â’r sir lle cewch eich croesawu a’ch derbyn a theimlo eich bod yn perthyn.

Trwy’r cynllun hwn, ein nod yw gwreiddio diwylliant o ymwybyddiaeth a chyfrifoldeb unigol ymhlith staff, ni waeth beth fo’ch cefndir neu’ch profiadau, mae gennym oll gyfrifoldeb ar y cyd i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r Cynllun yn nodi’r prif flaenoriaethau y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt am y pedair blynedd nesaf, ac mae’n cynnwys camau gweithredu o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru Llywodraeth Cymru.

Rydym ni wedi nodi sut y byddwn yn datblygu ein cynllun a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd yn ystod y pedair blynedd nesaf yn ein cynllun Conwy Gynhwysol.  Mae’n dangos sut fydd y Cyngor yn cyfrannu tuag at hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hunain a byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau a sefydliadau eraill i greu newid gwirioneddol ac ystyrlon.

Dogfennau

Mae’r cynllun llawn a’r atodiadau i’w gweld isod.  Neu os hoffech chi weld fersiwn gryno o’r cynllun, ewch i: Cynllun Conwy Gynhwysol 2024-2028:  Crynodeb (PDF, 0.6MB)

end content