Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024


Summary (optional)
start content

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus adolygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol o leiaf bob 4 blynedd, ar ôl ystyried data perthnasol ac ymgysylltu â grwpiau sy'n cynrychioli pob un o'r nodweddion gwarchodedig.

Dyma drydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ers cyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010 ac mae’n adeiladu ar y cynlluniau blaenorol sydd wedi bod ar waith yng Nghonwy ers 2003.

Mae’r Cynllun hwn yn disgrifio’r gwaith a wnaed i nodi ein hamcanion cydraddoldeb mewn perthynas â phob un o’r grwpiau a ddiogelir, ac mae’r Cynllun Gweithredu a amlinellir yn Atodiad 1 yn dangos sut y bwriadwn gyflawni’r amcanion cydraddoldeb hyn gyda’r nod o wella profiadau ein holl ddinasyddion. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd o ran gwireddu’r amcanion hyn yn flynyddol.

Datblygwyd yr amcanion hyn drwy ymgysylltu â’n budd-ddeiliaid, adolygu pa ddata sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch anghydraddoldebau cyson ac mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn eu hadroddiad “A yw Cymru’n Decach 2018.”

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cadarnhaol i weithwyr a chwsmeriaid. Rydym wedi ceisio cyflawni hyn, gan geisio sicrhau hefyd bod cydraddoldeb yn cael ei gynnwys (ei brif-ffrydio) yn ein polisïau, yn ein swyddogaethau ac yn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Rydym eisiau gwneud ein harferion a’n polisïau i gyd yn gyfan gwbl gynhwysol, gan ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a chroesawu amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Byddwn yn parhau i herio’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, yn datblygu polisïau ac yn cyflogi ac yn cadw pobl i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg.

Mae’r saith Amcan Cydraddoldeb canlynol wedi eu mabwysiadu yng Nghonwy

  • Amcan 1: Ceir deilliannau gwell o ran cyrhaeddiad addysg a llesiant mewn ysgolion
  • Amcan 2: Byddwn yn gweithredu i sicrhau ein bod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn lleihau bylchau tâl
  • Amcan 3: Byddwn yn gweithredu i wella Safonau Byw pobl dan anfantais oherwydd eu nodweddion gwarchodedig
  • Amcan 4: Byddwn yn gwella deilliannau Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol
  • Amcan 5: Byddwn yn gwella Diogelwch Personol a Mynediad at Gyfiawnder
  • Amcan 6: Cynyddu Mynediad at Gyfranogiad a gwella amrywiaeth yn y broses benderfynu 
  • Amcan 7: Datblygu ein gwybodaeth am y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol (pan fydd ganllawiau ar gael) a'n dealltwriaeth o hynny, er mwyn nodi'r effeithiau allweddol y dylid ymdrin â hwy o dan bob un o'n 6 amcan eraill.


Dogfennau Cysylltiedig

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 - dogfen llawn (Ffeil Word)

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 - 'Easy Read' (Ffeil Word)

Atodiad 1 - Cynllun Gweithredu (Ffeil Excel)

Atodiad 2 - Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru Dogfen Data ac Ymchwil Cefndirol (Ffeil Word)

Atodiad 3 - Amcanion Cydraddoldeb wedi'u Mapio yn Erbyn Cynlluniau Perthnasol (Ffeil Word)

end content