Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Strategaethau, Cynlluniau a Pholisïau Esbonio Cynlluniau Allweddol Esbonio ein Cynlluniau Strategol allweddol - cynlluniau tymor hir

Esbonio ein Cynlluniau Strategol allweddol - cynlluniau tymor hir


Summary (optional)
Mae gan Gonwy nifer o gynlluniau tymor hir ar gyfer gwella'r sir. Mae'r cynlluniau tymor hirach wedi'u datblygu gyda'n partneriaid.
start content

Cynllun Datblygu Lleol 

Mae hwn yn gynllun ar gyfer datblygu a defnydd tir o fewn y Fwrdeistref Sirol a bydd yn arwain lleoliad datblygiadau newydd hyd at 2022.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae hwn yn gynllun sy'n ymdrechu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn grwpiau a ddiogelir yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Cynllun Datblygu Gwledig (CDG)

Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig yn helpu pob un ohonom i gynnal, mwynhau a chael budd o gefn gwlad Cymru. Ar yr un pryd, mae'n mynd i'r afael â phroblemau penodol sy'n effeithio ar lawer o bobl mewn ardaloedd gwledig. Diogelu'r amgylchedd ac annog datblygiad economaidd cynaliadwy yw dau o nodau pwysicaf y Cynllun. Ond mae creu rhagor o swyddi sgil uchel a chefnogi prosiectau cymunedol lleol yn cael blaenoriaeth uchel hefyd.

Y Cynllun yw'r ail CDLl i Gymru a gyda dros £795 miliwn o arian i'w wario dros y saith mlynedd nesaf, gan gynnwys £195 miliwn o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) yr UE.

Mae'r Cynllun wedi'i rannu i bedair echel:

  • Echel 1: Gwneud ffermio, coedwigaeth a phrosesu bwyd yn fwy cystadleuol
  • Echel 2: Cadwraeth ein tirwedd ac amgylchedd
  • Echel 3: Gwella ansawdd bywyd ac annog amrywiaethu
  • Echel 4: Gweithredu'r dull Leader, h.y. arbrofi gyda mentrau llawr gwlad newydd sy'n gymorth i greu cymdeithas, economi ac amgylchedd mwy cynaliadwy.

Cynllun Lles Lleol

Mae Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (BGC) Conwy a Sir Ddinbych yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy’n cydweithio i wella lles eu sir. Rhaid i’r BGC baratoi a chyhoeddi cynllun lles lleol, sy’n nodi sut mae'r bwrdd yn bwriadu gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy weithio i gyflawni’r 7 nod Lles yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae dwy brif elfen yn y cynllun lles lleol: yr amcanion lleol; a'rcamau y mae'r bwrdd yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion I baratoi ar gyfer y cynllun, mae asesiad o les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol presennol Conwy a Sir Ddinbych wedi’i gynnal ac mae ar gael yma. Bydd y cynllun lles lleol yn cael ei gyhoeddi erbyn mis Ebrill 2018.

end content