Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

eDdeiseb


Summary (optional)
start content

Adfer gwasanaeth llawn bws 26

Wedi ei chreu gan: Dawn McGuinness
Dyddiad cau: 10/12/2021.
Mae'r eDdeiseb wedi cau.

Targed llofnodion: 100

Llofnodion a gafwyd hyd yn hyn: 170

Llofnodion sydd eu hangen: 0



Disgrifiad

Rydym ni’n galw ar Gyngor Conwy i orchymyn i Arriva Buses adfer gwasanaeth llawn bws 26 ar unwaith h.y. y gwasanaeth bob awr a oedd yn darparu 11 bws y dydd yn lle’r gwasanaeth newydd bob 3 awr sy’n darparu 4 bws y dydd. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhaff achub bwysig i drigolion y Gogarth, yn enwedig pobl hyn a phobl gydag anableddau sydd yn eu hatal rhag gyrru. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cael ei ddefnyddio gan blant ysgol i fynd i’r ysgol a gartref yn ddiogel. Mae’r bws olaf bellach yn rhy hwyr i blant sy’n dod adref o’r ysgol ac i’r rheiny sy’n gweithio yn y dref tan 5pm. Mae lleihau’r gwasanaeth hwn yn ystod y gaeaf yn benderfyniad hollol afresymol a chreulon, sydd wedi’i wneud heb ystyried yr effaith ar drigolion lleol. Mae’n gwahaniaethu yn erbyn unigolion anabl ac nid yw’n ystyried yr effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Canlyniad

Anfon llythyr, gan Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Chludiant, at Lee Waters AS (Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd) i holi am yr asesiad o effaith prinder gyrwyr bysiau a sut y dylid mynd i’r afael â'r materion hynny.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content