Mae’r Cynghorydd Ifor Glyn Lloyd yn estyn ei gydymdeimlad dwysaf ar ran cynghorwyr a staff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Yn ystod y cyfnod galaru hwn, bydd y baneri’n chwifio’n isel ym mhob Adeilad y Cyngor.
Caiff cyfarfodydd pwyllgor eu hatal yn ystod y cyfnod hwn.
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i lofnodi un o’r Llyfrau Cydymdeimlad a gaiff eu hagor ym Modlondeb, Conwy, a Choed Pella, Bae Colwyn.
Bydd y Llyfrau Cydymdeimlad ar agor:
- Dydd Llun, 9am-5pm
- Dydd Mawrth, 9am-7pm
- Dydd Mercher, 9am-5pm
- Dydd Iau, 9am-7pm
- Dydd Gwener, 9am-4.45pm
Bydd Cyhoeddiad Lleol am Ddyfodiad Brenin newydd yn cael ei wneud gan Gadeirydd y Cyngor am 2.30pm ar 11 Medi 2022.
Ar Ddiwrnod y Cyhoeddi, bydd baneri’n chwifio’n isel ar ddechrau’r diwrnod. Yna byddant yn chwifio’n uchel o 11am i gyd-daro â darllen y Cyhoeddiad. Bydd baneri’n chwifio’n uchel tan 1pm y diwrnod canlynol.