Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Ext netscaler

Cysylltu â Systemau TG Conwy o Bell - Canllaw NetScaler Gateway


Summary (optional)
Atebion i gwestiynau cyffredin wrth geisio cael mynediad o bell i rwydwaith y Cyngor
start content

 

Cymorth efo cysylltu â systemau TG Conwy gyda NetScaler Gateway

Mae'r meddalwedd NetScaler newydd wedi bod ar gael i'n defnyddwyr TG am dros flwyddyn gyda thua 300 o ddefnyddwyr y dydd yn ei ddefnyddio i gysylltu â systemau Conwy o bell.

Mae gennym drwyddedu i gefnogi hyd at 1000 o ddefnyddwyr unwaith i gyrchu systemau gan ddefnyddio NetScaler. Gellir ehangu hyn ymhellach lle gallai amgylchiadau eithriadol arwain at fwy o alw i weithio o bell.

Cofiwch y bydd perfformiad unwaith y byddwch wedi cysylltu â systemau Conwy yn annhebygol o fod mor gyflym ag y byddai fel arfer o brif swyddfeydd y Cyngor. Mae hefyd yn dibynnu ar gyflymder eich cysylltiad rhyngrwyd gartref a byddem fel arfer yn argymell y dylai defnyddwyr weithio ar gyswllt band eang cyflym iawn.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y trwyddedau i bawb a sicrhau nad yw’ch cysylltiad yn cael ei gloi dros dro, dylech allgofnodi o'r Gateway wrth gymryd unrhyw ginio neu seibiant o'r gwaith.

Fel mesur ychwanegol i sicrhau nad yw sesiynau'n cael eu clymu gan ddefnyddwyr yn ddiangen, bydd sesiynau NetScaler yn logio defnyddiwr allan yn awtomatig ar ôl 35 munud o segurdod ar y bysellfwrdd/llygoden neu os ydych wedi bod yn gysylltiedig yn barhaus am fwy nag 8 awr.

Bydd angen i chi ail-fewngofnodi os cewch eich datgysylltu'n awtomatig.

Rwyf wedi cysylltu â NetScaler, ond nid yw fy Skype nac Outlook yn cysylltu ac nid yw'r s:\drive yn gweithio.

Mae nifer fechan o beiriannau wedi cael trafferth diweddaru eu polisïau ar gyfer NetScaler. Cysylltwch â'r Ddesg Gwasanaeth TG am gymorth.

Desg Gwasanaeth TG
Ffôn: 01492 576033, estyniad mewnol 6033
E-bost: desggwasanaeth.tg@conwy.gov.uk

 

Rwyf wedi ceisio mewngofnodi ond ar ôl rhoi fy manylion mae’r eicon yn troelli heb gysylltu.

Mae’n debyg eich bod wedi gwneud camgymeriad wrth lunio’r manylion cyswllt y tro cyntaf.  Gallwch greu cysylltiad newydd (gyda’r manylion cywir) drwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn Addasu Cysylltiadau Netscaler Gateway (ffeil Word)

Pan rwyf yn mewngofnodi rwy’n cael tudalen wen yn nodi bod angen i mi osod Java neu JRE plugin. Rwyf wedi ceisio ailddechrau ond mae’n parhau i ddigwydd

Weithiau bydd gofyn i chi ddewis tystysgrif cyn cysylltu.  Mae Netscaler yn cofio’r dystysgrif yr ydych wedi’i dewis am sawl wythnos.  Os ydych yn dewis y dystysgrif anghywir bydd y gwall hwn yn ymddangos.  Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn Addasu Cysylltiadau Netscaler Gateway (ffeil Word) a chofiwch ddewis tystysgrif gyda'r ENW DEFNYDDIWR ynddi. 

Rwy’n colli cysylltiad yn gynt na'r hen RAG, yn enwedig os nad wyf wrth fy ngliniadur am gyfnod.

Yn wahanol i’r hen gysylltiad RAG, a oedd yn defnyddio traffig y rhwydwaith i ganfod gliniaduron anweithgar a therfynu eu sesiynau, mae’r Netscaler Gateway newydd yn defnyddio gweithgarwch bysellfwrdd a llygoden.  Os nad ydych yn defnyddio eich bysellfwrdd neu lygoden am 65 munud bydd yn eich datgysylltu. Mae hyn er mwyn osgoi cadw trwydded i staff y gallai rhywun arall ei ddefnyddio pan fyddant yn cael egwyl hir rhwng cyfnodau gwaith (e.e. cinio hir, neu swyddogion ar ddyletswydd dros nos / ar benwythnosau) ond yn gadael eu gliniadur wedi'i gysylltu.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content