Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor


Summary (optional)
Mae cynllun gostyngiadau treth y cyngor yn gallu helpu pobl ar incwm isel i dalu Treth y Cyngor. Mae unrhyw swm a ddyfernir yn cael ei gredydu yn uniongyrchol i'ch cyfrif treth y cyngor. 
start content

Ydw i'n Gallu Hawlio?

Mae Gostyngiadau Treth y Cyngor wedi'u dylunio i helpu pobl ar incwm isel i dalu Treth y Cyngor. Gall unrhyw un sy'n talu Treth y Cyngor hawlio'r gostyngiad hwn, gan gynnwys; pensiynwyr, pobl sâl neu ddi-waith a rhieni sengl. Gallwch hefyd fod yn gymwys i gael cymorth os ydych yn gweithio a bod eich incwm o dan lefel benodol.

Faint o gymorth y gallaf ei gael?

Ar hyn o bryd gallwch gael gostyngiad o hyd at 100% ar eich treth y cyngor. Mae faint o ostyngiad a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau e.e. eich incwm, amgylchiadau eich cartref a'ch cyfalaf/cynilion. 

Gallwch gael gwybod beth y gallech gael hawl iddo drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau.

Sut i wneud cais

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd. Bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio a darparu tystiolaeth ychwanegol. 

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Gallai unrhyw newid yn eich amgylchiadau effeithio ar eich cais, os na fyddwch yn ein diweddaru mewn pryd, gallech golli allan, neu orfod talu’r arian yn ôl. Defnyddiwch y ffurflen briodol isod i’n hysbysu o newidiadau i’ch amgylchiadau.

Os ydych angen copi papur o’r ffurflenni uchod neu gymorth i’w llenwi, gallwch ymweld ag unrhyw un o'n Swyddfeydd Budd-daliadau yn Sir Conwy, neu anfonwch e-bost at budd.daliadau@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 576491

end content