Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Talu am Wasanaeth Preswyl a Dibreswyl


Summary (optional)
Oherwydd newid mewn deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, o 6 Ebrill 2020 yr uchafswm ffi y gellir ei chodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw £100 yr wythnos.
start content

Gwasanaethau dibreswyl

Uchafswm ffi wythnosol o £100

Cyfrifir y costau yn ôl eich sefyllfa ariannol a faint o wasanaeth a'r math o wasanaeth a gewch bob wythnos. Mae'r taliadau llawn o 3 Ebrill, 2023 yn:

  • £23.76 yr awr am ofal gartref yn ystod y dydd; a
  • £23.76 yr awr am ofal dros nos

Gwasanaethau dydd

Cyfrifir y costau yn ôl eich sefyllfa ariannol. Mae'r taliadau llawn o 3 Ebrill 2023 yn:

  • £22.36 am ddiwrnod llawn
  • £11.18 am hanner diwrnod

 

Tudalen Talu am Wasanaethau Preswyl a Dibreswyl

Faint sy’n rhaid i mi ei dalu?

Bydd y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu'n dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • os ydych yn cael gofal seibiant byr neu’n aros am gyfnod hirach
  • os oes gennych bartner sy’n dal i fyw gartref
  • eich incwm wythnosol, yn cynnwys eich pensiwn
  • pa lwfansau eraill y mae gennych hawl i’w derbyn
  • swm eich cynilion ac asedau eraill
  • a ydych chi’n berchen ar eich eiddo eich hun ai peidio

Gellir canfod y manylion llawn yn ein taflen Talu am Wasanaethau nad ydynt yn rhai Preswyl (PDF).

Gellir canfod y manylion llawn am y Cynllyn Taliadau Gohiriedig y ein taflen Talu am Ofal Preswyl - Y Cynllun Taliadau Gohiriedig (PDF).

end content